Eglwys y Santes Fair, Cilcain

Oddi ar Wicipedia
Eglwys y Santes Fair
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1291 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCilcain Edit this on Wikidata
SirCilcain Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr223.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1772°N 3.23377°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy Edit this on Wikidata

Mae Eglwys y Santes Fair (neu weithiau: Eglwys Fair) yn adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi'i lleoli yng nghanol pentref Cilcain ym mhlwyf Cilcain, Nannerch a Rhydymwyn, Sir y Fflint, Cymru (Cyfeirnod grid: SJ17646516).[1][2] Fel y rhan fwyaf o eglwysi'r ardal, ceir dwy siambr ac mae ei tho Canoloesol a'r gerfiadau pren o angylion a chreaduriaid yn nodedig.

Ceir y cofnod cyntaf am yr eglwys hon yn 1291 yn Llyfr Trethi Lincoln. Ychwanegwyd y tŵr yn y 15g. Llosgwyd rhan o'r to yn 1532 a chodwyd to newydd yn 1746 a chredir ar lafar i'r to hwn gael ei gludo o Abaty Dinas Basing, er nad oes tystiolaeth o hynny. Mae'n bosibl i'r galeri gorllewinol hefyd gael ei godi tua'r adeg hon. Ailadeiladwyd a thrwsiwyd rhannau o'r eglwys hefyd rhwng 1845-46 dan oruchwyliaeth Ambrose Poynter.[3][4]

Y to a'r nenfwd[golygu | golygu cod]

Eglwys digon tebyg i hon (o ran ei tho) yw Eglwys Llanidloes a thorwyd coed derw ei thrawstiau yn haf 1538. Nid yw trawstiau Eglwys y Plwyf, Cilcain, hyd yma (2015), wedi'u dyddio. Mae Cadw'n dyddio'r trawstiau i tua'r 1530au - yn seiliedig ar ddarn o efydd gyda dyddiad llosgi'r eglwys arno, ond sydd bellach ar goll. Yn sicr, roedd y to o drawstiau derw yn ei le erbyn 1546 pan osodwyd ffenestr liw'r gangell yn ei lle. Mae'n debyg fod y to yn un o werth cendlaethol, oherwydd ei gyflwr da a'i oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: