Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfrothen |
Sir | Llanfrothen |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.3 metr |
Cyfesurynnau | 52.9503°N 4.0522°W |
Cod OS | SH621412 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Eglwys ym mhentrefan Llanfrothen, Gwynedd, yw Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen. Mae wedi bod dan ofal Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill") ers 2002.[1] Fe'i cofrestrwyd yn adeilad cofrestredig Gradd I.[2]
Adeiladwyd yr eglwys ar lethr a safai ar lan y môr tan ddechrau'r 19g. Roedd hyn yn agos at ddechrau'r llwybr peryglus ar draws y tywod y Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd. (Safai Eglwys Sant Beuno, Penmorfa ar y pen arall.) Ar ôl cwblhau'r Cob, Porthmadog, fel arglawdd ar draws aber Afon Glaslyn ym 1811, cafodd y tir hwn ei ddraenio, ac mae'r eglwys bellach tua 4 milltir o'r môr.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Brothen, a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Dywedir y claddwyd y sant yno.[3] Ceir nifer o nodweddion pensaernïol yn yr eglwys yn cynnwys ffenestr o'r 13g.
Yn 1888 bu helynt enwog Achos claddu Llanfrothen ynghylch hawl i gladdu ym mynwent yr eglwys, a'r achos hwn a ddaeth â David Lloyd George i amlygrwydd am y tro cyntaf. Mae bedd Mary Jones o Minffordd, a lofruddiwyd gan yr Hwntw Mawr yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Llanfrothen" Archifwyd 2016-11-12 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 29 Mehefin 2019
- ↑ (Saesneg) "St Brothen's Church, Llanfrothen"; Gwefan Coflein; adalwyd 29 Mehefin 2019
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cofnod yr eglwys yng nghronfa ddata Church Heritage Cymru
- (Saesneg) Cofnod yr eglwys yng nghronfa ddata Coflein
- (Saesneg) Cofnod yr eglwys ar wefan Friends of Friendless Churches Archifwyd 2016-11-12 yn y Peiriant Wayback