Eglwys Sant Andreas, Mwynglawdd

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Andreas
Mathtabernacl tun Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCoedpoeth, Y Mwynglawdd Edit this on Wikidata
SirY Mwynglawdd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr221.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.044571°N 3.076088°W, 53.0446°N 3.0761°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iAndreas Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Eglwys Sant Andreas yn eglwys Gradd II ym Mwynglawdd, Coedpoeth, Wrecsam, a adeiladwyd ym 1892[1] ar gyfer pobl Esclusham Uwch sef yr hen enw ar 'New Brighton'. Adeiladyd yr eglwys gyda haearn rhychiog ar ffrâm bren. Mae'r eglwys i'w chanfod tua 100 metr i'r de o Fferm y Wern ar y B5426 rhwng Minera ac Aber-oer.

Cofrestrwyd yr adeilad yn Radd II gan Cadw yn Ebrill 1998.[2] Fe'i cofrestrwyd gan fod y math yma o bensaerniaeth (adeiladau haearn rhychiog) yn gymharol brin heddiw, er i lawer iawn ohonynt gael eu codi ar ddiwedd y 19g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]