Eglwys Ein Harglwyddes, Seren y Môr, a Santes Gwenffrewi
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Amlwch ![]() |
Sir | Cymuned Amlwch ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 35.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4115°N 4.35144°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Cysegrwyd i | Ein Harglwyddes, Seren y Môr, Gwenffrewi ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Wrecsam ![]() |
Eglwys Gatholig fach yn Amlwch ar Ynys Môn yw Eglwys Ein Harglwyddes, Seren y Môr, a Santes Gwenffrewi. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1932 a 1937 gan y pensaer Eidalaidd Giuseppe Rinvolucri. Mae'n gysegredig i Santes Gwenffrewi yn ogystal â'r Forwyn Fair, a adenwir weithiau fel Seren y Môr.
Mae'r eglwys fach yn neilltuol fel enghraifft o eglwys fodern Gymreig. Wedi ei hadeiladu o goncrit yn bennaf, mae'r eglwys yn dwyn ffurf cwch neu long wedi'i throi ar ei phen – cyfeiriad at dreftadaeth forol pentref Amlwch a lleoliad yr eglwys ger y môr.
Ar ôl dirywiad yn y concrit, caeodd yr eglwys yn 2004 ac roedd mewn perygl cael ei dymchwel cyn ymgyrch lwyddiannus i godi arian i'w hadfywio. Fe ailagorodd yn 2011 yn dilyn y gwaith adnewyddu. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.
|