Neidio i'r cynnwys

Edouard Bachellery

Oddi ar Wicipedia
Edouard Bachellery
Ganwyd6 Hydref 1907 Edit this on Wikidata
Béziers Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1988 Edit this on Wikidata
Vaucresson Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd o Ffrainc oedd Edouard Bachellery (6 Hydref 190711 Awst 1988), sy'n adnabyddus yng Nghymru fel golygydd gwaith y bardd Cymraeg canoloesol Gutun Owain.

Astudiodd Sbaeneg yn y Sorbonne, Paris, lle dechreuodd ymddiddori yn y Celtiaid a'u llenyddiaeth. Daeth yn ddisgybl i'r Athro Joseph Vendryes ac yn 1941 cafodd ei ethol yn bennaeth Astudiaethau Celtaidd yn yr École Pratique des Hautes Études (Ysgol Uwchefrydiau) yn y Sorbonne.[1]

Bu'n olygydd y cylchgrawn astudiaethau Celtaidd Ffrangeg Études celtiques o 1948 hyd 1977. Cydweithiodd gyda'i hen athro, Vendryes, ar eiriadur Hen Wyddeleg. Cyfranodd nifer o erthyglau i Études celtiques a chylchgronau academaidd eraill, ond ei brif waith ysgolheigaidd yw ei olygiad mewn dwy gyfrol fawr o waith Gutun Owain, un o'r pennaf o Feirdd yr Uchelwyr yn y 15g, sef L'Œuvre poétique de Gutun Owain. Yn ogystal â nodiadau manwl mae'r gwaith yn cynnwys cyfieithiadau i'r Ffrangeg o bob cerdd.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • L'Œuvre poétique de Gutun Owain, 2 gyfrol (Paris, 1950, 1957)
  • (gyda Pierre-Yves Lambert), Das etymologische Wörterbuch : Fragen der Konzeption und Gestaltung (Regensberg : Friedrich Pustet, 1983)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.