Edith Lucy Austin

Oddi ar Wicipedia
Edith Lucy Austin
Ganwyd15 Rhagfyr 1867 Edit this on Wikidata
Penarlâg Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1953 Edit this on Wikidata
Fulham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethchwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Edith Lucy Greville (née Austin 15 Rhagfyr 186727 Gorffennaf 1953) yn chwaraewr tenis Seisnig benywaidd a oedd yn weithgar o'r 1890au hyd tua 1920. Roedd hi'n briod â'i chyd-chwaraewr George Greville.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Austin ym Mhenarlâg yn ferch i'r Parch. Edward Austin, curad Anglicanaidd Brychdyn ac Elizabeth (née Clark) ei wraig. Saeson oedd ei ddau riant a symudon nhw'n ôl i Loegr cyn i Edith fod yn 2 oed. Fe symudon nhw gyntaf i Honiton, Dyfnaint, [2] lle'r oedd ei thad yn ficer, ac yna Rendlesham, Suffolk, lle'r oedd ei thad yn rheithor. Yn ystod eu harhosiad ym Mhenarlâg daeth y teulu yn gyfeillgar a William Ewart Gladstone a'i deulu ef. Bu farw Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig, brawd yng nghyfraith Gladstone, mewn gorsaf trên toc wedi bod ar ymweliad a'r teulu Austin. [3]

Gyrfa Tenis[golygu | golygu cod]

Rhwng 1893 a 1919, cymerodd ran 16 gwaith yng ngemau sengl Pencampwriaethau Wimbledon. Cafodd ei chanlyniad gorau ym 1894 a 1896 pan gyrhaeddodd rownd derfynol y twrnamaint agored i bawb. Ym 1894 collodd i Blanche Hillyard mewn setiau syth, gan ennill dwy gêm yn unig a daeth Hillyard yn bencampwr, gan na wnaeth deiliad y teitl, Lottie Dod, amddiffyn ei theitl. Ym 1896 collodd rownd derfynol y twrnamaint agored i bawb mewn tair set i Alice Pickering. Yn ei dau ymddangosiad diwethaf yn Wimbledon ym 1913 a 1919 chwaraeodd hefyd yn y gemau dwbl a dyblau cymysg. .[1]

Enillodd deitl y senglau ym Mhencampwriaethau Caint ar chwe achlysur (1894-97, 1899, 1900).[4]

Ym 1894, trechodd May Arbuthnot mewn rownd derfynol tair set i ennill teitl senglau Pencampwriaethau Maes Gorchuddiedig Prydain, a chwaraewyd ar gyrtiau pren yng Nghlwb y Frenhines yn Llundain. Methodd Arbuthnot â throsi dau bwynt cyfateb. Y flwyddyn ganlynol, 1895, collodd ei theitl yn y rownd her i Charlotte Cooper. Rhwng 1896 a 1899 enillodd bedwar teitl yn olynol, gan drechu Cooper ddwywaith yn y rownd derfynol. Ym 1894, 1899 a 1901 enillodd dwrnamaint cwrt glaswellt Pencampwriaethau Clwb y Frenhines.[1]

Yn 1896 roedd hi'n ail ym Mhencampwriaethau De Lloegr yn Eastbourne, gan golli'r rownd derfynol i Blanche Bingley-Hillyard mewn tair set.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1899, priododd ei chyd-chwaraewr tenis Turketil George Pearson Greville, mab y Llyngesydd Cefn John Stapleton Greville,[5] disgynnydd i deulu Ieirll Warwick.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei chartref 6 Kensington Hall Gardens, Llundain yn 85 mlwydd oed. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Edith Lucy Austin Alias: Mrs T.G.P.Greville
  2. "TipynoBobPeth - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1869-10-30. Cyrchwyd 2021-04-23.
  3. "DEATH OF SEESTEPHEN R GLYNNE BART HAWARDEN CASTLE - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1874-06-20. Cyrchwyd 2021-04-23.
  4. "Kent Championships – Ladies' Singles Roll of Honour"
  5. Archifau Metropolitan Llundain; Llundain, Lloegr; Rhif Cyfeirnod: P84 / PET2 / 006 Cofrestr Priodasau St Matthias, Earls Court, Kensington and Chelsea
  6. Calendr Profiant Cenedlaethol (Mynegai Ewyllysiau a Gweinyddiaethau) Cymru a Lloegr, 1953 ar gyfer Edith Lucy Greville