Edeulys sbardunog
Edeulys sbardunog Cephaloziella elachista | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziellaceae |
Genws: | Cephaloziella |
Rhywogaeth: | C. elachista |
Enw deuenwol | |
Cephaloziella elachista |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys sbardunog (enw gwyddonol: Cephaloziella elachista; enw Saesneg: spurred threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond yn hynod o brin: dim ond ar arfordir gorllewinol Sir Benfro. Tyf hefyd yma ac acw yn Lloegr, de'r Alban ac yng nghanol Iwerddon.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae gan pob deilen 2-labed, gyda'r rhych yn un twfn iawn - hyd at 3/4 hyd y ddeilen, ond ni ellir eu gweld heb chwyddwydr sydd o leiaf yn ×20. Piws neu coch-biws yw ei lliw, sy'n ddefnyddiol pan geisir adnabod y rhywogaeth. Mae'n blanhigyn monoicous gyda changhenau sy'n wrywaidd a changenau sy'n fenywaidd. Mae'r coesynnau'n llai na 0.5 mm o led, a'r dail yn llai na 0.25 mm o hyd.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.