Edeulys pigog

Oddi ar Wicipedia
Edeulys pigog
Cephaloziella spinigera
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziellaceae
Genws: Cephaloziella
Rhywogaeth: C. spinigera
Enw deuenwol
Cephaloziella spinigera

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys pigog (enw gwyddonol: Cephaloziella spinigera; enw Saesneg: spiny threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngheredigion ac mewn llond llaw o lefydd yn yr Alban, Iwerddon a Lloger.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae gan yr Edeulys pigog ddail 2-labed syn rhanedig, fel arfer gydag ychydig o bigau hir ar yr ymylon. Byddai'n rhaid eu casglu er mwyn eu hadnabod drwy feicrosgop. Mae'r lliw porffor / coch yn nodweddiadol o C. spinigera, ac yn ei gwneud hi'n hawdd ei hadnabod. Mae'n blanhigyn monoicous gyda changhennau gwrywaidd a benywaidd. Mae'r coesynnau bychain yn llai na 0.5 mm o led, gyda'r dail yn llai na 0.25 mm o hyd.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Edeulys pigog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbge.org.uk; adalwyd 5 Mehefin 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.