ETA

Oddi ar Wicipedia
ETA
Enghraifft o'r canlynolterrorist organization, sefydliad arfog, endid a fu Edit this on Wikidata
IdiolegCenedlaetholdeb Basgaidd, sosialaeth chwyldroadol, annibyniaeth, separatism, Abertzale left Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Mai 2018 Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Gorffennaf 1959 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganEkin, ETApm (VIII) Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTerrorist of ETA Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am y seithfed llythyren yn yr wyddor Roeg gweler Eta (llythyren)
Logo ETA

Mudiad a hawliai annibyniaeth i Wlad y Basg oedd Euskadi Ta Askatasuna, a adnabyddir ran amlaf fel ETA ac a oedd unwaith yn fudiad arfog. Daeth y mudiad i ben ar 4 Mai 2018.[1]

Sefydlwyd ETA yn 1959 fel mudiad oedd yn anelu at ddiogelu traddodiadau Basgaidd; yn y cyfnod hwn gwaharddiad llwyr ar unrhyw fynegiant o genedligrwydd Basgaidd, gyda Francisco Franco a'i gyfundref unbeniaethol. Yn raddol, datblygodd y mudiad yn fudiad arfog a frwydrai dros annibyniaeth y wlad, gydag ideoleg sosialaidd i ddechrau a Marcsaidd-Leninaidd yn ddiweddarach. Daeth ETA i amlygrwydd pan laddasant y Llynghesydd Luis Carrero Blanco, oedd wedi ei nodi fel olynydd Franco yn 1973. Cynrychiolwyd adain wleidyddol y mudiad gan blaid Batasuna, a whaharddwyd gan Sbaen yn 2003 gan eu bod (yn ôl Sbaen) yn codi arian tuag at ETA.

Cyhoeddodd y mudiad gadoediad yn gynnar yn 2006, a dechreuwyd trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen, ond daeth y rhain i ben wedi i aelodau o ETA ffrwydro bom ym maes awyr Barajas, Madrid yn hwyrach yn y flwyddyn.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  1. naziogintza.eus; adalwyd 8 Mai 2018.