Edward Prosser Rhys
Edward Prosser Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mawrth 1901 Cymru |
Bu farw | 6 Chwefror 1945 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd |
Newyddiadurwr, bardd a chyhoeddwr Cymreig oedd Edward Prosser Rhys, yn ysgrifennu fel E. Prosser Rhys (4 Mawrth 1901 - 6 Chwefror 1945).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef ym Methel, Mynydd Bach, Ceredigion. Addysgwyd ef yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ond bu raid iddo adael yn gynnar oherwydd afiechyd. Bu'n gweithio ar y Welsh Gazette yn Aberystwyth, yna ar yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon. Daeth yn olygydd Y Faner yn 1923, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pŵl 1924.[1] Bu llawer o ddadlau ynghylch ei bryddest fuddugol, Atgof, oherwydd ei bod yn trin rhyw, yn cynnwys rhyw hoyw, mewn dull plaenach nag yr oedd rhai yn barod i'w dderbyn.[2] Yn 1928, sefydlodd Gwasg Aberystwyth, ac ef hefyd a sefydlodd y Clwb Llyfrau Cymraeg.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- E. Prosser Rhys a J. T. Jones Gwaed Ifanc (Hughes a'i Fab, 1923)
- E. Prosser Rhys Cerddi Prosser Rhys (Gwasg Gee, 1950)
- E. Prosser Rhys 1901-1945 Bwygraffiad gan Dr Rhisiart Hincks (Gwasg Gomer, 1980)