Neidio i'r cynnwys

E. E. Clive

Oddi ar Wicipedia
E. E. Clive
Ganwyd28 Awst 1879, 28 Awst 1883 Edit this on Wikidata
Blaenafon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
North Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata

Roedd Edward Erskholme Clive (28 Awst 1879 - 6 Mehefin 1940) yn Actor a chyfarwyddwr llwyfan Cymreig a gafodd yrfa actio doreithiog yng ngwledydd Prydain ac America. Chwaraeodd hefyd nifer o rolau ategol yn ffilmiau Hollywood rhwng 1933 a'i farwolaeth.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd E E Clive ar 28 Awst 1879 ym Mlaenafon, Sir Fynwy. Astudiodd ar gyfer gyrfa feddygol, ac roedd wedi cwblhau pedair blynedd o astudiaethau meddygol yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain cyn newid ei ffocws i actio yn 22 oed. Wrth deithio o amgylch teatrau daleithiol am ddegawd, daeth Clive yn arbenigwr ar bron bob math o dafodiaith ranbarthol yn Ynysoedd Prydain. Symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1912, lle sefydlodd ei gwmni stoc ei hun yn Boston ar ôl gweithio ar gylchdaith yr Orpheum vaudeville. Erbyn y 1920au, roedd ei gwmni'n gweithredu yn Hollywood; ymhlith ei actorion roedd newydd dyfodiaid megis Rosalind Russell. Bu hefyd yn gweithio arBroadway mewn sawl drama. Nododd ysgrif goffa Clive yn The New York Times ei fod wedi actio yn "1,159 o Ddramâu go iawn cyn mynd i fewn i faes filmiau symudol".[1]

Gwnaeth Clive ei ffilm gyntaf fel cwnstabl heddlu pentrefol yn The Invisible Man gyda Claude Rains ym 1933. Treuliodd y saith mlynedd nesaf yn ymddangos mewn rhannau cefnogol a man rannau, lle'r oedd yn aml yn portreadu fersiynau doniol o ystrydebau Saesneg neu fel ffigyrau awdurdodol di hiwmor.[2] Byddai'n aml yn chwarae bwtleriaid, gohebwyr, pendefigion, siopwyr a gyrwyr tacsi yn ystod ei yrfa ffilm fer. Er bod ei rolau'n aml yn fach, roedd Clive yn actor cymeriad adnabyddus a thoreithiog yn ei gyfnod. Ymhlith ei rolau mwyaf adnabyddus oedd y Maer anghymwys yng nghlasur arswyd James Whale, Bride of Frankenstein (1935). Roedd yn chware rhan "Tenny y Bwtler" yn lled reolaidd yng nghyfres Paramount Pictures Bulldog Drummond gyda John Howard yn serennu; bu hefyd yn chwarae bwtleriaid mewn ffilmiau eraill fel Bachelor Mother gyda David Niven a Ginger Rogers. Ym 1939, ymddangosodd Clive yn The Little Princess fel y cyfreithiwr Mr Barrows, ac yn nwy ffilm gyntaf yn y gyfres glasurol o ffilmiau Sherlock Holmes a oedd yn serennu Basil Rathbone. Un o rolau olaf Clive oedd fel Syr William Lucas yn yr addasiad llenyddol o Pride and Prejudice (1940) gyda Laurence Olivier a Greer Garson.

Bu farw Clive ar 6 Mehefin 1940, o anhwylder y galon, yn ei gartref yn Hollywood.[1] Roedd Clive yn aelod o gyfrinfa Euclid o Seiri Rhyddion yn Boston.

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
E E Clive fel Syr Harry Lorradaile yn Little Lord Fauntleroy

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "E.E. CLIVE, ACTOR, DEAD; Veteran of Stage and Screen Former Manager of Copley Theatre in Boston Appeared in 1,159 Legitimate Plays Before Going Into Moving Pictures". The New York Times. 1940-06-07. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-01-10.
  2. Quinlan's Film Character Actors: E E Clive
  3. Great Movie Musicals on DVD - A Classic Movie Fan's Guide John Howard Reid

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]