Dyffryn y Brenhinoedd

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn y Brenhinoedd
Map o leoliad y beddau

Dyffryn yr ochr draw i Afon Nîl o ddinas Luxor a hen ffinas Thebes yn yr Aifft yw Dyffryn y Brenhinoedd (Arabeg: وادي الملوك Wadi el-Muluk). Mae'n enwog fel man claddu brenhinoedd y Deyrnas Newydd yn yr Hen Aifft.

Ystyrid y dyffryn yn le arbennig o gyfnod cynnar, ac adeiladwyd temlau yma yn yr Hen Deyrnas a'r Deyrnas Ganol. Yn ystod y Deyrnas Newydd, yma yr oedd beddau'r brenhinoedd, wedi eu cloddio allan o'r graig. I'r de o'r dyffryn, roedd pentref y gweithwyr oedd yn adeiladu ac addurno'r beddau, Deir el-Medina, a Dyffryn y Brenhinesau. Tua chanol y Deyrnas Newydd, adeiladwyd nifer o feddau yma gan uchelwyr ac uchel-swyddogion hefyd.

Heddiw, mae'r dyffryn yn un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Aifft. Ar hyn o bryd, gwyddir lleoliad 63 o feddau, a gellir ymweld a'r mwyafrif, gyda 10 beddrod ar agor ar y tro, a'r rhain yn cael eu newid bob chwe mlynedd.

Ceir beddau'r brehninoedd canlynol yma: