Dyddiadur John Wittewronge

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadur John Wittewronge
Ganwyd1 Tachwedd 1618 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mehefin 1693 Edit this on Wikidata
Man preswylTalerddig, Rothamsted Manor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyddiadurwr, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
TadJacob Wittewronge Edit this on Wikidata
MamAnna Vanaker Edit this on Wikidata
PriodMary Myddelton, Elizabeth Middleton Edit this on Wikidata
PlantSir John Wittewronge, 2nd Bt., James Wittewronge Edit this on Wikidata
Gwobr/aumarchog, barwnig Edit this on Wikidata

Cyrnol a seneddwr o Loegr ac yswain Maenor Rothamsted oedd Syr John Wittewrong, Barwnig 1af (1 Tachwedd 161823 Mehefin 1693). Roedd John Witterong yn ddyddiadurwr a gadwodd gofnod manwl, dyddiol o'r tywydd. Mae Maenor Rothamsted, bellach, yn ganolfan blaengar ym maes ecoleg ac amaeth.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Roedd teulu'r Wittewrong o dras Protestanaidd o Fflandrys. Gadawsant eu tref yn Ghent yn yr Iseldiroedd Sbaenaidd am Lundain yn 1564.[1] Daeth Jacques Wittewrong i Lundain gyda'i wraig a dau blentyn, ac fe'u dilynwyd yn fuan gan y rhan fwyaf o weddill y teulu. Dilynodd Jacques yrfa fel notari cyhoeddus[2] a bu farw ym 1593.

Ŵyr i Jacques oedd John Wittewrong a mab i Jacob Wittewrong(le) (1558–1622)[3] trwy ail-briodas ag Anna, merch Garrard Vanaker o Antwerp, masnachwr. Roedd Jacob yn fragydd goludog.[4] Ar farwolaeth Jacob priododd Anna Thomas Myddelton maer Llundain.[5] Trwy ei lusdad enillodd John gysylltiad Cymreig, ac yn 1665 daeth yn Siryf Sir Drefaldwyn, trwy faenor Talerddig.[6]

Y Dyddiadur[golygu | golygu cod]

Pan ysgrifennwyd ei ddyddiadur defnyddid yr hen galendr, Calendr Iŵl, drwy ynysoedd Prydain, ac felly mae dyddiadau oll JW yn 10 niwrnod ar ôl Calendr Gregori presennol. I gysoni'r dyddiadau rhaid ychwanegu felly 10 niwrnod. Hefyd bu i'r flwyddyn 'ddechrau' ar 25 Mawrth er i'r 1 Ionawr hefyd gael ei ystyried fel diwrnod cyntaf y flwyddyn. I osgoi dryswch rhwng 1 Ionawr i 24 Mawrth ysgrifennid yn aml ddyddiadau'r cyfnod hwn fel (er enghraifft) 1684/5, a dilynnodd JW y drefn hon yn ei ddyddiadur.[7]

Cofnododd Wittewrong y tywydd yn rheolaidd, ac ef oedd un o'r unigolion preifat cyntaf i feddu ar faromedr domestig (Weather Glass yn ei ieithwedd ef)[8]. Darganfuwyd y berthynas fras rhwng cyflwr y tywydd ac uchder yr Arian byw (neu "mercwri") tua 1644 a bu i werthoedd y berthynas hon aros fwy neu lai yn ddigyfnewid hyd heddiw.[7]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Hertfordshire Record Society, Volume XV "Observations of Weather": the Weather Diary of Sir John Wittewronge of Rothamsted 1684-89
  • The Copy of a Letter from Alisbury. Directed to Colonell Hampden, Colonell Goodwin, and read in both Houses of Parliament, Mai 18. 1643. Thomason Collection, British Library E.102[15]. A letter from Wittewrong, published in London, giving an account of the Royalists' burning of the town of Swanborne, in Buckinghamshire.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-24. Cyrchwyd 2009-09-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. http://www.hertfordshire-genealogy.co.uk/data/answers/answers-2007/ans7-031-wittewronge.htm
  3. http://gallery.e2bn.org/image651461-migration.html
  4. Liên Luu, Immigrants and the industries of London, 1500-1700 (2005), t. 285.
  5.  Lee, Sidney, gol. (1894). "Myddleton, Thomas (1550-1631)" . Dictionary of National Biography. 39. Llundain: Smith, Elder & Co.
  6. Powys-Land Club, Collections historical & archaeological relating to Montgomeryshire and its borders, tt. 343-4.
  7. 7.0 7.1 'Observations of Weather'. The Weather Diary of Sir John Wittewronge of Rothamsted 1684 - 1689. (Hertfordshire Record Society (HRS). Golygwyd gan Margaret Harcourt Williams and John Stevenson.) Eiddo Cyngor Swydd Hertford yw'r llawysgrif gwreiddiol, ac fe'i cedwir yn adran Hertfordshire Archives and Local Studies (HALS) ref HALS D/ELw/F19
  8. Banfield, E. (1978) Antique Barometers an illustrated survey (Wayland Publications, Hereford 1978)