Dueglys twyllodrus

Oddi ar Wicipedia
Dueglys twyllodrus
Adelanthus decipiens
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Adelanthaceae
Genws: Adelanthus
Rhywogaeth: A. decipiens
Enw deuenwol
Adelanthus decipiens

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Dueglys twyllodrus (enw gwyddonol: Adelanthus decipiens; enw Saesneg: deceptive featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'n blanhigyn prin iawn.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngwynedd.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Ceir sbrigau bychan tua 3 cm, a'u lled yn 3mm. Mae'n clustogau'n sgleiniog, yn ddu, gwyrdd neu weithiau'n hynod o dywyll. Mewn maint, mae'nt yn debyg i rywogaethau o'r grŵp Plagiochila, ond mae eu dail yn geugrwm, a dwy ddant bychan arnynt. Mae'r dail oddeutu 2 mm o led, gyda'r dail agosaf at y pigyn yn nes at ei gilydd.[2]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r Dueglys twyllodrus i'w chanfod mewn coetiroedd llaith, ar ochr boncyffion. Yn aml, mae'n tyfu ar lethrau carregog (mewn coetiroedd).

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Dueglys twyllodrus gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. species.nbnatlas.org; adalwyd 2 Mai 2019.
  2. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.