Dua Lipa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dua Lipa
Dua Lipa 09 28 2018 -14 (45816387795).jpg
Ganwyd 22 Awst 1995 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Label recordio Warner Music Group, Universal Music Group, Vertigo Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Theatr Sylvia Young Edit this on Wikidata
Galwedigaeth canwr, cyfansoddwr, model, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth boblogaidd, Rhythm a blŵs, synthpop, indie pop, dream pop, cyfoes R&B, dark pop Edit this on Wikidata
Gwobr/au 61st Annual Grammy Awards, Gwobrau BRIT, Gwobr Grammy Edit this on Wikidata
Gwefan https://dualipa.com/ Edit this on Wikidata

Cantores, cyfansoddwr a model Seisnig yw Dua Lipa (ganwyd 22 Awst 1995).

Ar ôl gweithio fel model, fe arwyddodd gyda Warner Music Group yn 2015 a rhyddhau ei chân gyntaf, "New Love". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf yn 2017, a oedd yn cynnwys saith sengl, gan gynnwys dwy sengl 'top-ten' yn y DU "Be the One" ac "IDGAF", a sengl rhif un yn y DU "New Rules", a hefyd gyrhaeddodd rif chwech yn yr Unol Daleithiau. Cyrhaeddodd y sengl "One Kiss" gyda Calvin Harris rif un yn y DU, a ddaeth yn y rhif un hiraf i artist benywaidd yn 2018. Fe wnaeth llwyddiant y senglau helpu ei halbwm hunan-deitl i ddod yr albwm benywaidd a oedd wedi'i ffrydio fwyaf erioed ar Spotify, ac i fynd yn platinwm mewn sawl gwlad, gan gynnwys y DU a'r UDA. Mae hi wedi derbyn tair Gwobr Brit a dwy Wobr Grammy.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Dua Lipa ar y 22fed o Awst 1995 yn San Steffan, Llundain, i rieni o Cosofo ac Albania. Ystyr ei henw cyntaf yw "cariad" yn Albaneg. Esboniodd Lipa "Nawr rwy'n falch ohono. Nawr rydw i. Ond pan oeddwn i'n tyfu i fyny, y cyfan roeddwn i eisiau oedd cael fy ngalw yn Hannah, Sarah, Ella ... unrhyw beth normal. Oherwydd gyda Dua roedd yn rhaid i chi egluro: dwi'n dod o Kosovo."[1]

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dua Lipa (4 October 2017). "Patrizia meets Dua" (Interview) (yn English and Italian). Interviewed by Patrizia Pepe. Cyrchwyd 15 December 2017 – via YouTube.CS1 maint: Unrecognized language (link)