Dryw Penfflamgoch
Gwedd
| Dryw Penfflamgoch | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Regulidae |
| Genws: | Regulus |
| Rhywogaeth: | R. ignicapilla |
| Enw deuenwol | |
| Regulus ignicapilla (Temminck, 1820) | |
| Cyfystyron | |
|
Regulus ignicapillus | |
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Regulidae yw'r Dryw Penfflamgoch neu'r Dryw Fflamben (Regulus ignicapilla). Mae'n un o'r adar lleiaf sy'n nythu yn Ewrop, tua 9 cm o hyd ac yn pwyso cyn lleied â 4–7 g. Mae'n nythu ar draws rhan helaeth o Ewrop a Gogledd Affrica.
Mae'n wyrdd golau ar y cefn ac yn wyn oddi tanodd, gyda rhesen wen amlwg uwchben y llygad. Yr unig aderyn tebyg yw'r Dryw Eurben, sydd heb y rhesen wen uwchben y llygad.
Mae'n aderyn prin yng Nghymru, gydag ychydig barau yn nythu a nifer fychan yn gaeafu.

