Dryw Eurben

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dryw Eurben
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Regulidae
Genws: Regulus
Rhywogaeth: R. regulus
Enw deuenwol
Regulus regulus
(Linnaeus, 1758)

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Regulidae yw'r Dryw Eurben (Regulus regulus). Ef yw'r aderyn lleiaf sy'n nythu yn Ewrop, 8.5 - 9.5 cm o hyd ac yn pwyso cyn lleied a 5 g. Mae'n nythu ar hyd rhannau eang o Ewrop, Asia a Macaronesia.

Mae'n wrydd golau ar y cefn ac yn wyn oddi tanodd. Yr unig aderyn tebyg yw'r Dryw Penfflamgoch, sydd a rhesen wen amlwg uwchben y llygad. Aderyn nodweddiadol o goedwigoedd conifferaidd yw'r Dryw Eurben. Yng ngogledd Ewrop ac Asia, gall fod yn aderyn mudol.

Mae'n aderyn pur gyffredin yng Nghymru, lle nad yw'n mudo yn y gaeaf.