Doug Phillips
Doug Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1919 Castell-nedd |
Bu farw | 28 Ebrill 2000 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Abertawe, Broughton Rangers, Oldham R.L.F.C., Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru, Great Britain national rugby league team |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd Douglas Versailles Phillips (28 Mehefin 1919 – 28 Ebrill 2000) yn chwaraewr pêl-droed rygbi'r gynghrair o Gymru a phêl-droed proffesiynol yn y 1940au a'r 1950au. Chwaraeodd rygbi'r gynghrair cynrychioliadol ar gyfer Morgannwg (dwywaith), ac ar lefel clwb ar gyfer Clwb Rygbi Abertawe. Wedi newid codau i rygbi'r gynghrair, chwaraeodd rygbi ar lefel cynrychioliadol i Brydain Fawr a Chymru; ac ar lefel clwb i Oldham, a Belle Vue Rangers, yn yr ail reng.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Phillips yng Nghastell-nedd, Cymru ar y diwrnod y llofnodwyd Cytundeb Versailles ac o ganlyniad rhoddwyd yr enw canol Versailles iddo. Fel bachgen ysgol bu'n chwarae rygbi'r undeb i Ysgol y Bechgyn Castell-nedd ac roedd yn chwarae ar gyfer tîm cyntaf Clwb Rygbi Abertawe pan oedd yn 18 oed yn unig. Gwnaeth ddau ymddangosiad ar gyfer Morgannwg yn dilyn hyn yn ogystal â dau dreial ar gyfer tim cenedlaethol Cymru cyn i'r Ail Ryfel Byd ymyrryd pan ymunodd Phillips â'r fyddin. Yn ystod y rhyfel chwaraeodd Phillips i'r XV Gwasanaethau Cyfunol ac fe ymddangosodd mewn gêm rygbi'r undeb yn Stadiwm Odsal, Bradford ym mis Ebrill 1944 yn erbyn y XV rygbi cynghrair y Gwasanaethau Cyfunol. Sgoriodd Phillips gais agoriadol y gêm er mai XV y gynghrair enillodd o 15-10. Yn wrthwynebwyr i Phillips yn gynghrair rygbi XV oedd tri chwaraewr a fyddai'n gyd-deithwyr iddo wedyn yn Awstralia a Seland Newydd; Ernest Ward, Ike Owens, a Trevor Foster. Daeth perfformiad Phillips yn y gêm hon i sylw clybiau rygbi niferus y gynghrair ac ymunodd ag Oldham tua diwedd 1944.
Gyrfa gyda rygbi'r gyngrair
[golygu | golygu cod]Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Phillips am y tro cyntaf i Oldham, ar 17 Chwefror 1945 mewn buddugoliaeth o 16-0 dros Batley. Roedd ei wasanaeth gyda'r fyddin wedi atal Phillips o chwarae'n rheolaidd ac erbyn diwedd tymor 1945-46, roedd wedi chwarae wyth gwaith yn unig i Oldham ond roedd wedi gwneud digon i gael ei alw i chwarae i Gymru a Phrydain Fawr.
Ar ol iddo ddychwelyd o Awstralia a Seland Newydd ym mis Medi 1946, chwaraeodd Phillips 10 gem arall i Oldham cyn iddo drosglwyddo i Belle Vue Rangers ym mis Ionawr 1947 am ffi drosglwyddo o £ 1,000.[2]
Gan barhau gyda Belle Vue Rangers tan 1953, gwnaeth Phillips 253 o ymddangosiadau i'r tîm gan sgorio 28 o geisiadau. Gwnaeth un ymddangosiad yn rownd derfynol Cwpan Sir Gaerhirfryn pan gollodd Rangers 7-10 yn erbyn Wigan yn rownd derfynol 1947-48 yn Stadiwm Wilderspool, Warrington ar 1 Tachwedd 1947.[3]
Ymddeolodd o rygbi'r gynghrair ym mis Ebrill 1953 gan ddychwelyd i Gastell-nedd.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Cafodd Phillips ei ddewis i chwarae i Gymru am y tro cyntaf ym 1945 ac aeth ymlaen i ennill 10 cap rhwng 1945 a 1951 gan sgorio cais mewn gêm yn erbyn Lloegr yn 1949. Cafodd Phillips ei ddewis hefyd i chwarae i Brydain Fawr ac roedd yn aelod o'r timau teithiol yn 1946, a 1950 i Awstralia a Seland Newydd gan ennill pedwar cap (tri yn 1946, un yn 1950) yn erbyn Awstralia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Graham; Lush, Peter; Farrar, David (2009). The British Rugby League Records Book. London League. tt. 108–114. ISBN 978-1-903659-49-6.
- ↑ "Phillips signs for Belle Vue". Yorkshire Post (31, 007). 9 January 1947. t. 3.
- ↑ "1947–1948 Lancashire Cup Final". Cherry & White. 31 December 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-11. Cyrchwyd 1 January 2015.