Donna Edwards
Donna Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1963 Merthyr Tudful |
Man preswyl | Dinas Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Actores o Gymraes yw Donna Edwards (ganwyd 1963), a aned ym Merthyr Tudful.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei magu ym mhentref Trefechan ym Merthyr Tudful.[1] Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Faenor a Phenderyn lle cymerodd ddiddordeb cynnar mewn drama. Yn 14 oed cafodd ei dewis i chwarae'r brif rhan o Myfanwy Llewellyn yn nghynhyrchiad drama'r BBC yn 1978, Off to Philadelphia in the Morning am y cyfansoddwr Joseph Parry. Astudiodd Gymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn 1984.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1985, cafodd y rhan o Miriam Ambrose yn yr opera sebon Dinas ar S4C. Mae hi wedi ymddangos mewn sawl drama deledu arall yn cynnwys Tair Chwaer ac Yr Aduniad, ac yn hwyrach daeth yn fwyaf adnabyddus am chwarae Britt Monk yn Pobol y Cwm.[3]
Mae hi hefyd wedi serennu mewn nifer o ddramau teledu Cymreig yn Saesneg fel Nuts and Bolts ar ITV Cymru a Belonging ar BBC Cymru. Ymddangosodd yn y gyfres gomedi Gavin & Stacey. Mae hi wedi perfformio yn y Royal Court, Clwyd Theatr Cymru a'r Sherman yng Nghaerdydd.
Yn 2012 chwaraeodd ran 'Mo the Bap' yn y gyfres ddrama gomedi Stella ar Sky1, gan ddychwelyd am yr ail gyfres. Mae dwy o'i merched hefyd yn actio - Lucy Borja oedd yn chwarae Chloe Branagh yn y ddau gyfres gyntaf o Young Dracula ac ymddangosodd Sophie Borja yng nghyfres pedwar a phump o The Story of Tracy Beaker fel Roxy Wellard.
Yn 2015 chwaraeodd Yvette yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o Mother Courage yng Nghlwb Llafur Merthyr Tudful.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Mae hi wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau ddwywaith - am ei rhannau yn Tair Chwaer a Belonging.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae hi'n byw yn Ninas Powys gyda'i gŵr, Ray Borja, ffotograffydd, a dau o blant. Mae ganddi ddau frawd ugain mlynedd yn hŷn; John, sy'n blismon a Ken. Mae hi'n llysgennad ar gyfer elusen anabledd dysgu Mencap Cymru.[5]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Cymeriad | Cynhyrchiad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
1978 | Off to Philadelphia in the Morning | Myfanwy Llewellyn | BBC Cymru | |
1985-1991 | Dinas | Miriam Ambrose | HTV Cymru ar gyfer S4C | |
1997-1999 | Tair Chwaer | Sharon | Ffilmiau'r Gaucho ar gyfer S4C | 3 cyfres |
2000 | Nuts and Bolts |
Andrea Griffiths | ITV Cymru | |
2002– | Pobol y Cwm | Britt Monk | BBC Cymru ar gyfer S4C | |
2003-2009 | Belonging |
Ruth | BBC Cymru | 7 cyfres |
2008 | Gavin & Stacey | Sian (bydwraig) | BBC Three | Pennod 2.3 a 2.7 |
2012-2013 | Stella | Mo the Bap | Sky 1 | Cyfres 1 a 2 |
Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Cymeriad | Cynhyrchiad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
1992 | Rebecca's Daughters |
Bessy | ||
1997 | House of America | Derbynnydd | ||
1998 | Yr Aduniad |
Ffilm deledu ar gyfer S4C | ||
1999 | Cymer dy Siâr | Sharon | Ffilm deledu ar gyfer S4C | Ffilm i gloriannu cyfresi Tair Chwaer |
2000 | Very Annie Mary | Mrs Bevan |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "3 Lle: Tri hoff le Donna Edwards". Daily Post. 23 Hydref 2010. Cyrchwyd 18 Mawrth 2016.
- ↑ "South East Wales Unitarian News Informal interviews with local Unitarians" (PDF). unitarian.org.uk. Tachwedd 2010. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.
- ↑ Price, Karen (17 Awst 2007). "The good, the bad and the ugly opinions". WalesOnline. Cyrchwyd 27 Ionawr 2011.
- ↑ "Emptage Hallett -Donna Edwards". Cyrchwyd 18 Mawrth 2016.
- ↑ "For the love of Ken". WalesOnline. 23 Medi 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Donna Edwards ar wefan Internet Movie Database
- Donna Edwards ar Twitter