Don Cheadle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Don Cheadle
Cheadle yn 2011
Ganwyd Donald Frank Cheadle Jr.
(1964-11-29) 29 Tachwedd 1964 (54 oed)
Kansas City, Missouri, Yr Unol Daleithiau
Gwaith Actor, gwneuthurwr ffilmiau, awdur
Gweithgar 1984–presennol

Mae Donald Frank "Don" Cheadle Jr. (ganed 29 Tachwedd 1964)[1] yn actor, ysgrifennwr, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr Americanaidd. Yn 2016 roedd yn ymddangos yn ffilmiau'r Bydysawd Sinematig Marvel fel yr archarwr Lt. James 'Rhodey' Rhodes / War Machine.

Un o'i ffilmiau cyntaf oedd Hamburger Hill (1987), cyn adeiladu ar hyn yn y 1990au yn Devil in a Blue Dress (1995), Rosewood (1997) a Boogie Nights (1997). Yna, cydweithioedd gyda Steven Soderbergh ar Out of Sight (1998), Traffic (2000) a Ocean's Eleven (2001). Ymddangosodd hefyd yn The Rat Pack (1998), Things Behind the Sun (2001), Swordfish (2001), Crash (2004), Ocean's Twelve (2004), Ocean's Thirteen (2007), Reign Over Me (2007), Talk to Me (2007), Traitor (2008) a The Guard.

Ym 2017 fe leisiodd y cymeriad Donald Duck yn y rhaglen deledu DuckTales [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]