Donald Duck
Enghraifft o'r canlynol | hwyaden anthropomorffig, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, Cymeriad bydysawd craidd Disney |
---|---|
Crëwr | Dick Lundy, Walt Disney |
Lliw/iau | gwyn, melyn, oren |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Sensational Six |
Dechrau/Sefydlu | 9 Mehefin 1934 |
Gwefan | http://mickey.disney.com/donald |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Donald Duck yn gymeriad cartŵn a grëwyd ym 1934 gan gwmni Walt Disney Productions. Mae Donald yn hwyaden wen anthropomorffig gyda phig, coesau a thraed melyn-oren. Yn nodweddiadol mae'n gwisgo crys a chap morwr gyda thei bô [1]. Mae Donald yn enwog am ei leferydd lled ddealladwy a'i bersonoliaeth ddrygionus a gwamal. Ynghyd â'i ffrind Mickey Mouse, mae Donald yn un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd Disney ac fe'i cynhwyswyd yn rhestr Tv Choice o'r 50 o gymeriadau cartŵn gore erioed yn 2002.[2] Mae wedi ymddangos mewn mwy o ffilmiau nag unrhyw gymeriad Disney arall, ac ef yw'r cymeriad llyfr comic sydd wedi ymddangos yn y nifer fwyaf o gyhoeddiadau yn y byd y tu allan i'r genre uwch-arwyr.
Cododd Donald Duck i enwogrwydd gyda'i rolau comedi mewn cartwnau animeiddiedig. Roedd ymddangosiad cyntaf Donald yn 1934 yn The Wise Little Hen,[3] ond ei ail ymddangosiad yn Orphan's Benefit a'i cyflwynodd fel ffoil comig gwamal i Mickey Mouse. Drwy gydol y ddwy ddegawd nesaf, ymddangosodd Donald mewn dros 150 o ffilmiau theatrig, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod yng Ngwobrau'r Academi. Yn y 1930au, fel arfer roedd yn ymddangos fel rhan o driawd comic gyda Mickey a Goofy a rhoddwyd ei gyfres ffilm ei hun iddo ym 1937 gan ddechrau gyda Don Donald. Cyflwynodd y ffilmiau cariad Donald, Daisy Duck, ac yn aml roeddynt yn cynnwys ei dri nai Huey, Dewey a Louie. Ar ôl y ffilm 1956 Chips Ahoy, ymddangosodd Donald yn bennaf mewn ffilmiau addysgol cyn dychwelyd i'r theatr animeiddiad yn y ffilm Mickey's Christmas Carol (1983). Ei ymddangosiad diweddaraf mewn ffilm theatrig oedd Fantasia 2000 ym 1999. Mae Donald hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau syth i fideo megis Mickey, Donald, Goofy: The Three Musketeers (2004), cyfres deledu megis Mickey Mouse Clubhouse (2006-2016 ), a gemau fideo megis QuackShot (1991).
Y tu hwnt i ffilmiau animeiddiad, mae Donald yn adnabyddus yn bennaf am ei ymddangosiadau mewn comics. Cafodd ei darlunio yn bennaf gan Al Taliaferro, Carl Barks, a Don Rosa. Mae Barks, yn arbennig, yn cael ei gredydu am ehangu'r "bydysawd Donald Duck", y byd y mae Donald yn byw ynddo, a chreu nifer o gymeriadau ychwanegol megis ewythr cyfoethog Donald Scrooge McDuck. Mae Donald wedi bod yn gymeriad poblogaidd iawn yn Ewrop, yn enwedig mewn gwledydd Nordig lle'r oedd ei gylchgrawn wythnosol Donald Duck & Co y cyhoeddiad comic mwyaf poblogaidd o'r 1950au hyd 2009. Mae Donald hefyd yn boblogaidd iawn yn yr Eidal, lle mae'n gymeriad mawr mewn llawer o gomics a lle crëwyd ei fersiwn ieuanc ohono Paperino Paperotto a'i hunan arall uwcharwrol Paperinik (Duck Avenger yn UDA a Superduck yn y DU).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Disney wikia Donald Duck adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ TV Guide's 50 greatest cartoon characters of all time Archifwyd Gorffennaf 16, 2011, yn y Peiriant Wayback. CNN. 2002-06-30, retrieved 2011-06-04.
- ↑ Britannica Donald Duck adalwyd 26 Medi 2018