Dill Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dil Jones)
Dill Jones
Ganwyd19 Awst 1923 Edit this on Wikidata
Castellnewydd Emlyn Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1984 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpianydd, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, cerddor jazz Edit this on Wikidata
Arddulljazz, cerddoriaeth swing Edit this on Wikidata

Pianydd jazz o Gymro oedd Dillwyn Owen Paton Jones (19 Awst 1923 - 22 Mehefin 1984).

Yn fab i reolwr banc fe'i ganwyd yn Sunnyhill, Castellnewydd Emlyn, ac fe wnaeth y teulu symud i Dalgarth a Llanymddyfri. Roedd ei dad wedi ei fagu yng Nghei Newydd. Fe'i ganwyd yng Nghastell Newydd Emlyn a'i fagu yng Nghei Newydd, Ceredigion.

Ei athrawes biano gyntaf oedd ei fam Lavinia Bevan ac wedyn yn Llandeilo, Emlyn Evans. Dywedir ei fod yn chwarae gwaith Robinstein yn saith oed. Mynychodd Goleg Llanymddyfri fel disgybl dydd yn 1935. Gadawodd yn 1940, ac ar ôl ychydig o amser yn gweithio mewn banc ymunodd â'r llynges yn 1945. Daeth allan o'r llynges yn Mehefin 1946. Ar ôl gweithio mewn banc yn Llundain am ychydig cyn mynd i Goleg Cerdd y Drindod, Llundain. (Trinity College of Music).

Ar ôl ymfudo i America yn 1961 bu yn cyd-chwarae gyda pobl fel Gene Krupa, Jimmy McPartland a Yank Lawson.

Dechreuodd ei yrfa jaz gyda Carlo Krahmer a Humphrey Lyttelton.