Digrifwch Iorwba
Enghraifft o'r canlynol | digrifwch, Yoruba culture |
---|---|
Iaith | Iorwba |
Mae digrifwch (efe neu awada) yn agwedd gyffredin o ddiwylliant yr iaith Iorwba a chymdeithas yr Iorwbaid, sy'n frodorol i wledydd Nigeria, Benin, a Thogo yng Ngorllewin Affrica. Dywed mai ymledu llawenydd ar y ddaear hon ydy pwrpas chwerthin: ki inu aye dun ("boed hapusrwydd i'r byd").[1]
Mae sawl rhan o'r traddodiad llafar Iorwba yn cynnwys elfennau digrif, gan gynnwys cylymau tafod, dychmygion, diarhebion, ffablau a damhegion. Mae cerddoriaeth draddodiadol Iorwba yn cynnwys caneuon gwatwar yn ogystal â chaneuon mawl. Gan amlaf, cyfleir hiwmor yn niwylliant Iorwba drwy ffigurau ymadrodd, chwarae ar eiriau, a throsiadau.
Mae gan ddigrifwch sawl swyddogaeth yng nghymdeithas yr Iorwba. Yn ogystal ag adlonni a pheri chwerthin, mae'n ymddwyn fel falf bwysedd i dawelu tensiynau rhwng amryw grwpiau'r gymdeithas. Mae iaith ddigrif yn caniatáu i'r ieuenctid a'r dosbarthiadau is i watwar yr henoed a'r dosbarthiadau uwch heb ennyn llid.[1] Mae traddodiadau digrif hefyd yn rhoi esgus i bobl ymollwng, hyd yn oed mewn defodau crefyddol, er enghraifft addolwyr y duw Oke sydd yn crwydro Ibadan yn dawnsio a chanu rhigymau anweddus am bobl ar ben eu hunain yn y stryd. Yn wahanol i iaith lafar gyffredin yr Iorwba, sy'n frith o eiriau teg, mae'r caneuon yn cyfeirio at yr organau cenhedlu yn blwmp ac yn blaen.[1] Caiff y camymddygiad hwn ei dderbyn gan drigolion y ddinas fel eithriad i'r drefn, yn debyg i raddau i ddathliadau carnifal yn Ewrop.
Cyflwynwyd digrifwch i ffuglen ysgrifenedig Iorwba yn gynnar. Nofel bicarésg ydy un o'r nofelau gyntaf yn yr iaith Iorwba, Ògbójú Ọdẹ nínú Igbó Irúnmọlẹ̀ (1938) gan D. O. Fagunwa, sy'n dilyn anturiaethau heliwr wrth iddo ymwneud â chreaduriaid ac elfennau eraill o lên gwerin yr Iorwba.