Dic Sion Dafydd

Oddi ar Wicipedia

Cymro sy'n gwadu iaith ei fam yw Dic Sion Dafydd (neu Dic Siôn Dafydd) ac fe ddefnyddiwyd yr idiom yn wreiddiol mewn cerdd ddychanol a gyhoeddwyd yn 1803 gan y bardd a phamffledwr gwleidyddol John Jones (Jac Glan-y-gors) (1766-1821).

Y gerdd[golygu | golygu cod]

Yng ngherdd Jac Glan-y-gors mae Dic yn Gymro anllythrennog anwybodus, "mab Hafoty'r Mynydd Mawr", sy'n ymfudo o gefn gwlad Cymru i ddinas Llundain er mwyn "ymddyrchafu" yn y byd. Mae'n dod yn farsiandwr dillad llewyrchus yn Llundain, ond mae'n cuddio ei wreiddiau ac yn cymryd arno ei fod wedi anghofio'r Gymraeg yn llwyr er mwyn plesio ei gyfeillion Seisnig cyfoethog. Ond yn y diwedd mae ffawd yn troi yn ei erbyn: mae'n colli ei fusnes ac yn gorfod dychwelyd i Gymru yn dlawd i ddioddef gwaradwydd ei gydwladwyr, yn cynnwys ei fam ei hun.

Ac wedi gwneud ei hun i fyny,
I wlâd Cymru fe aeth bob cam,
Yn ei gadair yn ergydio,
Yn gweiddi, 'Helo' wrth fotty ei fam.

A Lowri Dafydd dd'wedai ar fyrder,
"Ai machgen anwyl i ydwyt ti?"
"Bachgen Tim Cymraeg; hold your bother,
Mother you can't speak with me."

A Lowri a ddanfonai'n union,
Am y person megys Pâb,
A fedrai grap ar iaith y Saeson,
I siarad rhwng y fam a'r mab!

Yna'r person nôl ymbledio,
A'i tarawodd ar ei ffon,
Nes oedd Dic yn dechrau bloeddio,
O iaith fy mam, mi fedra hon.

Dehongliad[golygu | golygu cod]

Byth ers cyhoeddi'r gerdd am y tro cyntaf mae pobl wedi defnyddio'r ymadrodd i gyfeirio at unrhyw Gymro sy'n cefnu ar ei iaith a'i ddiwylliant er mwyn llwyddo yn y byd Seisnig. Gellir ei gymharu gyda'r "Ewyrth Twm" Americanaidd, caethwas du sy'n chwerthin ar ben ei wreiddiau ei hun er mwyn ennill ffafr y bobl wynion.

Ail gerdd[golygu | golygu cod]

Mewn ail gerdd, mae balchder a drygioni Dic yn ei ddifetha yn Llundain, ac mae'n gorfod dod yn ôl i Gymru mewn tlodi. Defnyddir yr ymadrodd Dic Siôn Dafydd yn aml heddiw ar gyfer Cymro sydd yn cymryd arno golli ei iaith a'i hunaniaeth Gymraeg.

Cafwyd sawl cerdd arall am Ddic Sion Dafydd, yn enwedig yn y 19g, e.e. y faled boblogaidd gan Abel Jones (Y Bardd Crwst). Ym marddoniaeth yr 20g ceir epigram ar yr un testun gan Sarnicol:

Er gwadio'i dir, a gwadu ei iaith,
'Doedd o na Sais, na Chymro chwaith,
Ond bastard mul,—'roedd yn y dyn
Wendidau'r mul i gyd ond un;
Fe fedrodd Dic, ŵr ffiaidd ffôl,
Adael llond gwlad o'i had ar ôl.

[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sarnicol, Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]