Diane Farr

Oddi ar Wicipedia
Diane Farr
Ganwyd7 Medi 1969 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Man preswylLa Cañada Flintridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Loughborough
  • Prifysgol Stony Brook, UDA Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, actor teledu, actor ffilm, model Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Americanaidd yw Diane Farr (ganwyd 7 Medi 1969) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cynhyrchydd, actores teledu a ffilm. Caiff ei hadnabod yn bennaf am ei rol fel asiant yr FBI, Megan Reeves, yn y gyfres deledu Numb3rs, a'r diffoddwr tân Laura Miles yn Rescue Me.

Fe'i ganed yn Manhattan ar 7 Medi 1969. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Loughborough, Prifysgol Stony Brook, UDA.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Diane Farr yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, o dras Gwyddelig ac Eidalaidd. Astudiodd Farr ddrama ym Mhrifysgol Stony Brook yn Efrog Newydd a Phrifysgol Loughborough yn Lloegr gan raddiodd gyda B.A ar y cyd o'r ddwy brifysgol hyn.[2][3]

Ar Fehefin 26, 2006, priododd y gweithredwr marchnata 36 oed Seung Yong Chung. Ganwyd eu plentyn cyntaf, Beckett Mancuso Chung, ym mis Mawrth 2007 a chawsant ddwy ferch, Sawyer Lucia Chung a Coco Trinity Chung, yn Awst 2008. Mae Farr hefyd wedi ysgrifennu llyfr ar ramant rhynghiliol (interracial), Kissing Outside the Lines.[4][5]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Mae Farr wedi ysgrifennu dau lyfr: cyhoeddwyd y cyntaf, The Girl Code (2001) sydd wedi ei gyfieithu i saith iaith, ac sy'n trafod iaith gyfrinachol menywod sengl, a Kissing Outside the Lines (Mai 2011), cofiant comig o'i llwybr i briodas rhynghiliol. Mae Farr hefyd yn ysgrifennu ar gyfer nifer o gylchgronau Americanaidd ac mae ganddi golofn bapur newydd wedi'i syndiceiddio'n rhyngwladol ar gyfer yr International Herald Tribune.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Gorffennaf 2016. "Diane Farr". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. "Diane Farr Biography". TV Guide. Cyrchwyd 28 Hydref 2009.
  3. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd 2012-11-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. "Famous People Getting Married: Arquette, Farr Tie the Knot: And, oh yeah, so does 81-year-old 'Wyatt Earp' star". zap2it.com. 26 Mehefin 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-18. Cyrchwyd 21 Mai 2007.
    - "WEDDINGS/CELEBRATIONS; Diane Farr, Seung Chung". The New York Times. 26 Mehefin 2006. Cyrchwyd 6 Ionawr 2009.
  5. Stephen M. Silverman (16 Mawrth 2007). "Numb3rs Star Diane Farr Welcomes a Boy". People.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-22. Cyrchwyd 10 Medi 2012.