Dewi Watkin Powell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dewi Watkin Powell
Ganwyd 29 Gorffennaf 1920 Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Mai 2015 Edit this on Wikidata (94 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cyfreithiwr Edit this on Wikidata

Roedd Dewi Watkin Powell neu, yn aml, Dewi Watcyn Powell, (29 Gorffennaf 1920 - 6 Mai 2015) yn gyfreithiwr, ymgyrchydd dros y Gymraeg a senedd i Gymru, a llenor. Bu farw ym 6 Mai 2015 yn 94 oed.[1] a'i gladdu ym mynwent Tanlan, Llanfrothen.[2] Ei deitl llawn oedd, Ei Anrhydedd Dewi Watkin Powell MA LLD.

Ganed ef ar 29 Gorffennaf 1920 yn Aberdâr[3] a bu'n byw yn Radur, ger Caerdydd, Nanmor a Chricieth.

Y Gyfraith[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn astudiaethau is-raddedig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, galwyd ef i’r Bar yn 1949 gan ddod yn ddiweddarach yn Farnwr Llys y Goron, yn Ddyfarnwr Swyddogol yn Adran Mainc y Frenhines o’r Uchel Lys ac yn Farnwr Cysylltiol yn Llys y Goron yn siroedd Dyfed a Morgannwg Ganol.[4]

Yn ôl y cyn-ddirprwy farnwr, a'r cyn-archdderwydd, Dr Robyn Léwis, roedd Dewi Watcyn Powell wedi defnyddio ei ddylanwad fel barnwr i Gymreigio'r gyfundrefn gyfreithiol, ac roedd yn gwneud hynny ar bob cyfle posib.[5]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn un o’r rhai wnaeth gyflwyno tystiolaeth o blaid datganoli mwy o bwerau i Gymru – gyda Gwynfor Evans, Chris Rees, Phil Williams a Dafydd Wigley – i Gomisiwn Crowther, neu Gomisiwn Kilbrandon, ar ddiwedd y 1960au a’r 1970au.[6]

Roedd yn gefnogwr o Blaid Cymru a bu'n annerch ei chynadleddau.[7]

Chwaraeodd ran yn ochr gyfreithiol achub Capel Celyn a boddi Cwm Tryweryn yn yr 1950au a 60au.[8]

Byd Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu’n Gadeirydd Cyngor Coleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach), ac yn aelod o Lysoedd a Chynghorau Prifysgol Cymru, Coleg Meddygaeth y Brifysgol, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth bellach).

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn is-lywydd Anrhydeddus o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac fe dderbyniodd y wisg wen gan Orsedd y Beirdd.

Gwasanaethodd hefyd fel Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Llywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Cynrychiolwyd y Gymdeithas yn ei angladd yn Llanfrothen ar 14 Mai 2015 gan y Llywydd, yr Athro Prys Morgan.

Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod i'r diweddar Alys, ac yn dad i'r academydd Nia Watcyn Powell a thaid i Elen Huana.

Roedd yn Gristion o argyhoeddiad yn perthyn i’r traddodiad Bedyddiedig. Bu’n aelod yn Eglwys y Bedyddwyr, Tabernacl Caerdydd ac yn un o aelodau olaf Berea, Cricieth cyn iddo gau.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]