Derwen blackjack
Derwen blackjack | |
---|---|
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf Cross Timbers Lincoln County, Oklahoma | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Fagaceae |
Genus: | Quercus |
Rhywogaeth: | Q. marilandica |
Enw deuenwol | |
Quercus marilandica Muenchh.[3] | |
Delwedd:Dosbarthiad naturiol derwen blackjack map 1.png | |
Dosbarthiad naturiol derwen blackjack Quercus marilandica | |
Cyfystyron[4][5] | |
|
Derwen Blackjack | |
---|---|
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf yn Cross Timbers yn Lincoln County, Oklahoma | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytrad: | Tracheophytes |
Cytrad: | Angiosperms |
Cytrad: | Eudicots |
Cytrad: | Rosids |
Trefn: | Fagales |
Teulu: | Fagaceae |
Genws: | Quercus |
Is-genws: | Quercus subg. Quercus |
Rhan: | Quercus sect. Lobatae |
Rhywogaeth: | Q. marilandica
|
Enw bionimaidd | |
Quercus marilandica | |
Dosbarthiad cyffredinol naturiol derwen blackjack Quercus marilndica. | |
Cyfystyron | |
|
Derwen fechan yw Quercus marilandica, derwen blackjack, sy'n un o'r grŵp derw coch Quercus sect . Lobatae . Mae'n frodorol i ddwyrain a chanol yr Unol Daleithiau.
Coeden gollddail fechan sy'n tyfu i 15 medr o uchder yw'r Quercus marilandica, gyda rhisgl wedi hollti'n blatiau hirsgwar gyda holltau oren cul. Mae'r dail yn 7-10cm o hyd a llydan, ac yn nodweddiadol yn blaguro o waelod taprog i siâp cloch tri llabedog eang gyda dim ond mewnoliadau bas. Maent yn wyrdd tywyll ac yn sgleiniog uwchben, yn lwyd-wyrdd oddi tannynt, ac yn aml yn aros ynghlwm wrth y brigau trwy'r gaeaf ar ôl troi lliwiau o goch i frown yn yr hydref. Mae'r fesen yn fach,12-20mm hir a10-18mm o lydan; ac fel coed derw coch eraill, mae'n cymryd 18 mis i'r mes aeddfedu.
Gall derw blackjack yn y Cross Timbers, Oklahoma, yr UDA dyfu i uchder o 15-18medr, ond anaml yn cyrraedd mwy na 12medr, gyda diamedr boncyff o 41cm. Mae'r dail o 10-25cm o hyd a thua'r un lled.
|
Dosbarthiad a chynefin[golygu | golygu cod]
Gellir dod o hyd i'r dderwen blackjack o Long Island yn Efrog Newydd i Fflorida, i'r gorllewin cyn belled â Thecsas, Oklahoma, a Nebraska . Mae adroddiadau am ychydig o boblogaethau ynysig yn ne Michigan, ond mae'n ymddangos bod y rhain yn cynrychioli cyflwyniadau. [7]
Mae’r rhywogaeth yn tyfu mewn priddoedd gwael, tenau, sych, creigiog neu dywodlyd lle gall ychydig o blanhigion coediog eraill ffynnu, fel arfer ar dir isel, o lefel y môr hyd at tua 850medr. Mae rhai ffynonellau yn dweud nad oes ganddi'r ffurf hardd fel sydd i lawer o goed derw, ond serch hynny mae'n goeden werthfawr ar gyfer tyfu mewn safleoedd problemus. [8] Mae rhai yn dweud bod y goeden yn "anodd ond yn hyll", ond hefyd yn cael ei thanwerthfawrogi. [9] [10] Ar adegau mae'r goeden hyd yn oed wedi cael ei dileu er mwyn darparu lle i goed y tybir eu bod yn fwy gwerthfawr yn fasnachol. [11]
Weithiau mae'n goeden isdyfiant mewn clystyrau pinwydd ar fryniau tywodlyd yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Ar hyd gwastadedd arfordirol New Jersey mae'r tebygolrwydd o ddod o hyd i'r rhywogaeth hon yn cynyddu mewn ardaloedd cymharol heulog, agored fel y rhai ger morfeydd heli arfordirol. Mae'n bodoli'n aml law yn llaw â derw ysgarlad a phost yn ogystal â phinwydd pigfain ; Ymhlith ei chymdeithion isdyfol mae'r Rhus copallinum, rhedynen ungoes, Comptoni peregrinia, a baewydden, a gellir dod o hyd iddynt cyn belled i'r gogledd â rhannau o Ohio [12] ac Efrog Newydd .
Mae amrywiad penodol, sef Quercus marilandica Münchhausen amr. ashei Sudworth, yn tyfu'n rhan mwyaf gorllewinol ei dosbarthiad yng ngogledd Tecsas, Oklahoma, hyd at de Kansas . Yn yr ardal hon, mae blackjack a derw post yn ffurfio ardal lled-safanna sy'n cynnwys stribedi coediog wedi'u cymysgu â llennyrch glaswellt y paith ar hyd ymyl dwyreiniol y Gwastadedd Mawr deheuol. Gelwir y lled-safanna hwn yn y Cross Timbers. [13] [14] [15] Ffurfiau prysgwydd o Q. marilandica sy'n dominyddu ar lawer o lennyrch cornfaen ynghyd â Q.<span typeof="mw:Entity" id="mwdQ"> </span>stellata ar lwyfandir Ozark Arkansas.
Ecoleg[golygu | golygu cod]
Weithiau mae derw blackjack yn croesrywio â derw arth ( Q. ilicifolia ), sy'n ffurfio croesryw a elwir yn Q. × brittonii .
Mae mes blackjack yn darparu bwyd ar gyfer ceirw cynffon wen a thwrci gwyllt . Fodd bynnag, gall blackjacks achosi gwenwyn asid tannig mewn gwartheg.
Defnyddiau[golygu | golygu cod]
Mae pren yn ddwys iawn ac mae'n cynhyrchu fflam boeth pan yn llosgi, sydd yn ddefnyddiol dros ben ar gyfer barbeciwiau and stofiau llosg-bren. Beth bynnag,nid yw'r pren yn ddefnyddiol ar gyfer llefydd tân pren oherwydd gall y gwres tanbaid achosi i'r pren dasgu allan gwreichion a all achosi tannau tŷ.[16]
Yn draddodiadol, defnyddir pren blackjack fel tanwydd a phren mwg ar gyfer barbeciw yn Oklahoma .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Nodyn:Cite iucn Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "iucn status 12 November 2021" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "NatureServe Explorer 2.0".
- ↑ Münchhausen, Otto von (1770). "Verzeichniß der Bäume und Stauden, welche in Deutschland fortkommen". Der Hausvater. 5. Hannover: Försters und Sohns Erben. tt. 253: diagnosis in Latin, description in German in Teutonic script.
- ↑ Nodyn:ThePlantList
- ↑ Nodyn:Tropicos
- ↑ "NatureServe Explorer 2.0".
- ↑ "Quercus marilandica Range Map" (PDF). United States Geological Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 July 2011. Cyrchwyd 2008-03-05.
- ↑ Liming, Franklin G. (1 March 1942). "Blackjack Oak in the Missouri Ozarks". Journal of Forestry (Society of American Foresters) 40 (3): 249–252. http://www.ingentaconnect.com/content/saf/jof/1942/00000040/00000003/art00011?crawler=true.
- ↑ Klingaman, Gerald (September 22, 2000). "Plant of the Week: Blackjack Oak". Extension News. University of Arkansas Division of Agriculture. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-02. Cyrchwyd 31 October 2017.
- ↑ Nelson, John (12 January 2017). "Blackjack oak grows in hardscrabble habitat". Tallahassee Democrat. Tallahassee, Florida. Cyrchwyd 31 October 2017.
- ↑ Clark, F. Bryan; Liming, Franklin G. (December 1953), Sprouting of Blackjack Oak in the Missouri Ozarks, Technical Paper No. 137, Division of Forest Management, Central States Forest Experiment Station, https://archive.org/details/sproutingofblack137clar
- ↑ "Blackjack Oak". What Tree Is It?. Ohio Public Library Information Network and The Ohio Historical Society. 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-04. Cyrchwyd 2023-11-10.
- ↑ Oklahoma Biological Survey (2016). "Ancient Cross Timbers". University of Oklahoma. Cyrchwyd 31 October 2017.
- ↑ Oklahoma Forestry Services. "Oklahoma's Forests > Oklahoma's Major Forest Types > Post Oak-Blackjack Forest". Oklahoma Department of Agriculture, Food, and Forestry. Cyrchwyd 31 October 2017.
- ↑ Engle, David M. (18 March 1997). "Oak ecology". Stillwater, Oklahoma: Division of Agricultural Sciences and Natural Resources, Oklahoma State University. Cyrchwyd 31 October 2017.
- ↑ Hatch, Stephan L.; Pluhar, Jennifer, gol. (1999). Texas Range Plants. College Station, Texas: Texas A&M University Press. ISBN 0-89096-538-2.