Deobandi
Gwedd
| Enghraifft o: | enwad crefyddol, mudiad crefyddol |
|---|---|
| Crefydd | Swnni |
| Rhan o | Swnni |
| Dechrau/Sefydlu | 1867 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0hb7w |
Mudiad Islamaidd yw'r Deobandi. Tarddodd yn Dar al-Ulum (ysgol neu goleg crefyddol) Deoband yng ngogledd yr India ym 1867 gan ddilynwyr Sayyid Ahmad Reza Khan Barelwi. Addysgid Mwslimiaid mewn modd ceidwadol y ffydd, gan bwysleisio'r hadith a thraddodiad cyfreithiol yr Hanafi a ffurf gymedrol ar Swffïaeth. Lledaenodd y Deobandiaid ar draws India a Phacistan. Ers y 1920au mae mudiad rhyngwladol y Tablighi Jamaat yn parháu safbwynt anwleidyddol y Deobandiaid gwreiddiol. Trodd rhai yn y mudiad yn wleidyddol ac yn wrth-Orllewinol yn sgil rhaniad India a Phacistan ym 1947. Datblygodd tueddiadau eithafol o rengoedd y Deobandi gan grwpiau sy'n proffesu Islamiaeth megis Jamiatul Ulama-i Islam ym Mhacistan a'r Taleban yn Affganistan.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Deobandis Archifwyd 2019-04-22 yn y Peiriant Wayback" yn The Oxford Dictionary of Islam (Oxford Islamic Studies Online). Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2016.