Servus! Stephen Turner ydw i (neu Stifyn on ôl athrawon Cymraeg henaidd a chyfrifon Wicipedia). Ymunais ar Wicipedia ar yr unfed ar bymtheg o Awst2009 am rhesymau personol ac aflonyddol. Mae'n annhebygol iawn byddai'n cyfrannu unrhywbeth o werth i'r erthyglau neu'r gwefan fel endid cyfunol, ond dwi'n eitha' brwdfrydig. Dwi'n dod o Gasnewydd ond dwi'n astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy mhenblwydd ar y nawfed ar hugain o Fai a dwi'n ei ddathlu pob flwyddyn. Cefais fy eni yng Nghasnewydd yn gynnar yn y nawdegau a cefais fy nysgu yn Ysgol Gymraeg Casnewydd ac wedyn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Yn anfodus sai'n ddeall sut i dreiglo, ond dwi'n wastad trio gwella fy hun. Dwi'n bachgen eitha' byr (5'4"/165cm) ond mor bert ydw i, mae pobl yn sgrechian, chwydu a chilio ar y stryd. Dwi'n hoff iawn o ddysgu ieithoedd, gwylio fideos doniol ar YouTube, The Two Ronnies, gwaith Hayao Miyazaki, Rodney Dangerfield a'r rhaglen teledu 'Dinosaurs' (cofia nhw?). Hefyd, anffyddiwr ydw i. Fy hoff anifail yw'r axolotl a dwi'n hefyd hoff iawn o Fydcips.
I gymryd ein perthynas ymhellach, ymwelwch a fy nhudalen Facebook: [1], neu fy nhudalen Sgwrs, neu ewch i'r tudalen Troseddwyr Lleol ar wefan cyngor Casnewydd.
Beth wyt ti'n galw person sy'n siarad tair iaith? Tairieithog
Beth wyt ti'n galw person sy'n siarad dwy iaith? Dwyieithog
Beth wyt ti'n galw person sy' mond yn siarad un iaith? Sais