Defnyddiwr:AlwynapHuw/Morag Beaton

Oddi ar Wicipedia
Morag Beaton
Delwedd:MoragBeatonAsTurandot1967 1.jpg
Morag Beaton as Turandot 1967
GanwydMorag Beaton
(1926-07-02)2 Gorffennaf 1926
Edinburgh, Scotland
Bu farw1 Ebrill 2010(2010-04-01) (83 oed)
Sydney, Australia


Roedd Morag Beaton (2 Gorffennaf 1926 – 1 Ebrill 2010) yn Soprano ddramatig a anwyd yn yr Alban ond bu'n byw a gweithio'n benaf yn Awstralia. Daeth yn enwog am ei ddarluniad o Turandot, rôl a ganodd yn Awstralia yn fwy nag unrhyw soprano arall hyd yn hyn. Canodd hefyd Tatiana (Eugene Onegin), Venus (Tannhäuser), Abigaille (Nabucco), Eboli (Don Carlos) Santuzza (Cavalleria rusticana) a llawer o rolau eraill. Roedd ei gyrfa operatig yn Awstralia yn gymharol fyr, gan bara rhwng 1965 a 1983 yn unig, gyda'i datganiad olaf yn Nhŷ Opera Sydney ym 1983. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Heddiw, mae enw da Beaton yn dibynnu i raddau helaeth ar ei hymddangosiadau fel Turandot a'i recordiadau o'r rôl, a'i pherfformiad fel Cathy ar y recordiad cyflawn o unig opera hyd llawn gan Bernard Herrmann, Wuthering Heights. [2] [3] [4] Yn ogystal a chanu soprano bu hefyd yn canu y rôl contralto Maddalena (Rigoletto) a'r rôl contralto Ulrica (Un ballo in maschera) a rôl soprano heriol arall - Abigaille yn Nabucco .

Ar ôl datganiad olaf Beaton yn Nhŷ Opera Sydney ym 1983, bu’n canu weithiau ar gyfer digwyddiadau arbennig fel gala pen-blwydd 80 oed i Sylvia Fisher, a mentora llawer o gantorion addawol. Roedd derbyniad cynnes i Beaton yn Nhŷ Opera Sydney ym 1996, pan fynychodd y gala i nodi hanner canmlwyddiant Cwmni Opera Awstralia. [5] Yn 2006, mewn gala i gant o westeion i anrhydedd pen-blwydd Beaton yn 80 oed, canodd ddwy gân Albanaidd, yng nghwmni Geoffrey Tozer. [6]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Beaton yng Nghaeredin, yr Alban, ar 2 Gorffennaf 1926. Yn ei phlentyndod astudiodd gerddoriaeth gyda'i mam, Margaret. Ym 1945 ymunodd a'r fyddin gan wasanaethu am dair blynedd gan ganu cymaint ag y gallai. Pob tro y byddai'r cyfle yn codi, byddai Beaton yn canu i'r milwyr wrth gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau ar wahanol bostiadau. [7] [8]

Hyfforddiant[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Beaton i astudio ganu yng Nghaeredin ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn disgybl i'r athrawes enwog, Joyce Fleming. Yn ôl awgrym Fleming, dechreuodd Beaton fynychu sesiynau Collegium Musicum Dr Hans Gál. Daeth Gál yn ddylanwad pwysig yn natblygiad Beaton. Roedd yn gerddor disglair, yn gyfansoddwr, yn bianydd ac yn ysgolhaig o fri. Roedd Gál yn Iddew a ffodd gyda'i deulu i Loegr ym Mawrth 1938 i ddianc rhag Hitler a'r Natsïaid. Yn ddiweddarach, cynigiwyd swydd iddo fel darlithydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caeredin. [7] [8]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1962, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Berlin yn canu yn Atlantida gan Manuel de Falla . Ar ôl canu yn yr Almaen a Lloegr, cafodd gwahoddiad gan Richard Bonynge, i fynd ar daith o amgylch Awstralia gyda Chwmni Opera Mawreddog Rhyngwladol Sutherland-Williamson ym 1965. Ym 1966, recordiodd rôl Cathy mewn recordiad cyflawn o Wuthering Heights gan Bernard Herrmann, o dan gyfarwyddyd y cyfansoddwr. Yr un flwyddyn, gwnaeth recordiad arall, y tro hwn i Decca, gyda Joan Sutherland a chanwr arall yr oedd hi'n ei hedmygu hefyd, y mezzo-soprano Margreta Elkins . Canodd Beaton gydag Opera Awstralia rhwng 1967 a dechrau 1973, pan ymddiswyddodd a dychwelyd i Lundain lle cafodd lawdriniaeth am gyflwr meddygol a oedd wedi bod yn ei phoeni ers cryn amser. Dychwelodd i Awstralia ym 1976. [9] [10] [11] [12]

Ar 16 Ionawr 1983, dychwelodd Beaton i berfformiad cyhoeddus yn Nhŷ Opera Sydney, gyda datganiad o ariâu operatig gan gynnwys "Voi lo sapete" (Cavalleria rusticana) "Son pochi fiori" (L'amico Fritz), "O mio babbino caro" ( Gianni Schicchi ), "Io son l'umile" ( Adriana Lecouvreur ), "L'altre notte" (Mefistofele) a "Suicidio" (La Gioconda). Gyda Elizabeth Allen canodd y deuawdau "Als die alte Mutter sang (caneuon a dysgwyd imi gan fy mam)" (Dvořák) a'r "Barcarolle" o opera Offenbach Les contes d'Hoffmann. Daeth ar datganiad i ben gyda thair cân gwerin o Ynysoedd Heledd. [1] [8]

Turandot[golygu | golygu cod]

Ar 22 Gorffennaf 1967 canodd Beaton Turandot am y tro cyntaf i agor y tymor yn Theatr Ei Mawrhydi, Melbourne. Rhwng 1967 a 1971 canodd Beaton Turandot lawer gwaith yng nghynhyrchiad Opera Awstralia, yn y mwyafrif o brifddinasoedd ledled y wlad. [13]

Ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymddeol i Sydney, bu Beaton yn westai rheolaidd i Opera Awstralia mewn nifer o berfformiadau yn Nhŷ Opera Sydney.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Sydney ar 1 Ebrill 2010, yn 83 mlwydd oed. [14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

[[Categori:Marwolaethau 2010]] [[Categori:Genedigaethau 1926]] [[Categori:Cantorion Albanaidd]] [[Categori:Cantorion Awstralaidd]] [[Categori:Opera]] [[Categori:Pobl o Gaeredin]]

  1. 1.0 1.1 Article 18 January 1983, The Sydney Morning Herald
  2. Unicorn – Kanchana, 1972
  3. "Dream role launched diva Morag Beaton on world stage", The Australian (1 April 2010)
  4. "Morag Beaton: operatic soprano", obituary in The Times
  5. "Interview", Lady Viola Tate interview 1996, Peter Wylllie Johnston Opera Archive
  6. On Stage, January 2007
  7. 7.0 7.1 "Interview with Morag Beaton", 5 January 2007, PWJ Archive
  8. 8.0 8.1 8.2 "Morag Beaton" in From the Melburnian, Ellikon Publishing, 2010
  9. "Ephemera Collection", National Library of Australia
  10. Cargher, J., Opera and Ballet in Australia, Sydney, Cassell Aust., 1975
  11. Glennon, J. Understanding Music, Rigby, Adelaide, 1972
  12. Covell, R., Kippax, H., et al, Entertainment Arts in Australia, Paul Hamlyn, Sydney, 1968
  13. Article, 24 July 1967, The Age
  14. "Dream role launched diva Morag Beaton on world stage" by Peter Wyllie Joghnston, The Australian (9 April 2010)