Defnyddiwr:AlwynapHuw/Elizabeth Ferard

Oddi ar Wicipedia
Elizabeth Catherine Ferard
Elizabeth Catherine Ferard, first deaconess of the Church of England
Deaconess, 1862
Ganwyd22 February 1825
Bloomsbury, London
Bu farw18 April 1883
St Pancras, London
Mawrygwyd ynAnglican Communion parents=Daniel Ferard and Elizabeth Clemetson
Gwyliau18 July

Roedd Elizabeth Catherine Ferard (22 Chwefror 1825 - 18 Ebrill 1883) yn diacones a gafodd y clod am adfywio urdd y diaconesau yn y Cymundeb Anglicanaidd. [1] Mae hi bellach yn cael ei chofio yng Nghalendr y seintiau mewn rhai rhannau o'r Cymundeb Anglicanaidd gyda gwyl mabsant yn cael ei dathlu ar naill ai 3 neu 18 Gorffennaf. [2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Ferard yn wraig bonheddig o deulu amlwg o Huguenotiaid. Roedd yn ferch i, Daniel Ferard (1788-1839), cyfreithiwr ac Elizabeth (née Clementson) ei wraig. [3]

Anogodd Archibald Tait, Esgob Llundain ar y pryd ac yn ddiweddarach Archesgob Caergaint, alwedigaeth grefyddol Elizabeth Ferard, yn enwedig ei hymweliad â chymunedau o ddiaconesau yn yr Almaen ar ôl marwolaeth ei mam anabl ym 1858. [4]

Er i Sant Paul grybwyll diaconesau yn Cenchrea,[5] a bod Sant Ioan Aurenau yn ystyried y model a oedd yn briodol ar gyfer y ddau ryw, diflannodd y diaconesau am gannoedd o flynyddoedd. Cawsant eu hadfywio pan sefydlodd Theodor Fliedner gymuned o ddiaconesau yn Yr Eglwys Lutheraidd yn Kaiserswerth, yr Almaen ym 1836. Dechreuodd yr Egwyisi Esgobol yn Baltimore, Maryland, waith tebyg tua 1855. Roedd y mudiad diaconesau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys menywod a oedd yn byw yn y gymuned wrth gynnal gweinidogaethau diaconiaid traddodiadol, yn enwedig dysgu a gwasanaethu'r tlawd mewn dinasoedd diwydiannol.

Ym 1856, ymwelodd Ferard â chymuned o ddiaconesau yn Kaiserswerth. Yno, roedd diaconesau yn dysgu merched ac yn gweinyddu i'r sâl; daeth y sefydliadau yn ffordd o fyw amgen, ymarferol a chrefyddol i fenywod, heb iddynt ddod yn lleianod.[6]

Yn Eglwys Loegr roedd y drefn ddiaconesau yn cael ei hystyried yn ddewis amgen i'r drefn lleianod. Roedd y drefn lleianod yn cael ei uniaethu i raddau helaeth â'r Mudiad Rhydychen Eingl-Gatholig. Roedd y mudiad diaconesau yn cael ei ystyried yn adfywiad o urdd a oedd wedi bodoli yn yr eglwys gynnar ac a oedd ag awdurdod Beiblaidd iddi, a gan hynny yn apelio mwy i adain efengylaidd yr eglwys

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gyda chymorth perthynas cefnog (y Parch Thomas Pelham Dale) a chymwynaswyr eraill, sefydlodd Ferard Sefydliad Deaconesau Gogledd Llundain ym 1861, wedi'i leoli yn Burton Crescent (Cartwright Gardens erbyn hyn) ger King's Cross, a ddaeth yn adnabyddus fel Sefydliad Diaconesau Esgobaethol Llundain ym 1869, ac yna Cymuned Diaconesau San Andreas ym 1943. Aelodau cyntaf y sefydliad oedd Ferard, Ellen Meredith ac Anna Wilcox. Cysegrodd y menywod eu hunain i'r Eglwys, i ddysgu a gofalu am y sâl, ond heb iddyn gymryd addunedau eglwysig ffurfiol. Ordeiniwyd Ferard yn ddiacones ar 18 Gorffennaf 1862. [7]

Byddai menyw a oedd yn dymuno ymuno yn gwasanaethu yn gyntaf fel darpar chwaer ac yna fel ymgeisydd am ddwy flynedd, cyn cael ei derbyn i'r urdd. Roedd pob diacones yn cael ei galw'n chwaer ond, yn wahanol i leianod, ni chawsant eu rhwymo wedyn gan urddau eglwysig. Roedd reolau llym yn llywodraethu bywyd bob dydd y ddiacones, gan gynnwys ymddygiad a gwisg, presenoldeb mewn gwasanaethau eglwysig, defodau gweddi foreol a hwyrol, ac amser ar gyfer gweddi breifat ac astudiaeth Feiblaidd.

Aeth Ferard ymlaen i sefydlu cymuned gyda'r alwedigaeth ddeuol o fod yn ddiacones ac yn chwaer crefyddol. Gweithiodd gyntaf mewn plwyf tlawd yn ardal King's Cross yn Llundain, a symudodd i Notting Hill ym 1873. [8] Bu'n nyrsio ac yn dysgu yn Bloomsbury, Kings Cross, Somers Town a Notting Hill .

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Wedi ymddiswyddo fel pennaeth Sefydliad Diaconesau yr Esgobaeth ym 1873 oherwydd salwch, sefydlodd Ferard gartref ymadfer i blant yn Redhill . Bu farw yn 16 Sgwâr Fitzroy. Llundain yn 58 mlwydd oed. [3] [8]

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Ym 1994, ordeiniwyd tair deacones Eglwys Loegr yn Offeiriaid yn nghyflawn waith weinidogaeth yr eglwys. [9] Prif waddol Ferard, gan hynny, oedd agor llwybr i ferched cael eu derbyn i bob swydd o fewn yr Eglwys Anglicanaidd gan gynwys, bellach Esgobion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

[[Categori:Marwolaethau 1883]] [[Categori:Genedigaethau 1825]]

  1. Briggs, Emilie G. (June 1913). "The Restoration of the Order of Deaconesses". The Biblical World (The University of Chicago Press) 41 (6): 384. doi:10.1086/474809.
  2. "The Deaconesses of the Church in Modern Times, compiled by Lawson Carter Rich (1907)". anglicanhistory.org. Cyrchwyd 14 July 2012.
  3. 3.0 3.1 Valerie Bonham, 'Ferard, Elizabeth Catherine (1825–1883)', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2010 accessed 17 Dec 2012
  4. Blackmore, Henrietta (ed.). The Beginning of Women's Ministry: The Revival of the Deaconess in the 19th Century Church of England (Church of England Record Society No. 14) Boydell & Brewer, 2007.
  5. "Bible Gateway testun: Rhufeiniaid 16:1 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2021-05-22.
  6. Ferards visit in Kaiserswerth and the influences she received there are analysed in Czolkoss, Michael: „Ich sehe da manches, was dem Erfolg der Diakonissensache in England schaden könnte“ – English Ladies und die Kaiserswerther Mutterhausdiakonie im 19. Jahrhundert. In: Thomas K. Kuhn, Veronika Albrecht-Birkner (eds.): Zwischen Aufklärung und Moderne. Erweckungsbewegungen als historiographische Herausforderung (= Religion - Kultur - Gesellschaft. Studien zur Kultur- und Sozialgeschichte des Christentums in Neuzeit und Moderne, 5). Münster 2017, pp. 260–265.
  7. Heeney, Brian. Women's Struggle for Professional Work and Status in the Church of England, 1900–1930. The Historical Journal, Vol. 26, No. 2 (Jun., 1983), p.333 Cambridge University Press.. Retrieved 14 July 2012.
  8. 8.0 8.1 For all the saints
  9. "The (Deaconess) Community of St Andrew 1861–2011", Revd Dr Sr Teresa Joan White, CSA, editor.