Deddf Uno 1800
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Deddfau Uno 1800)
Enghraifft o'r canlynol | Act of the Parliament of Great Britain, Act of the Parliament of Ireland |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1800 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Defnyddir y term Deddf Uno 1800, weithiau Deddf Uno 1801 (Saesneg: Act of Union 1800, Gwyddeleg: Acht an Aontais 1800) am ddwy ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1800. Eu heffaith oedd uno Iwerddon a Teyrnas Prydain Fawr, i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Eu teitlau swyddogol oedd Union with Ireland Act 1800 (1800 c.67 39 and 40 Geo 3), deddf a basiwyd yn Senedd Prydain Fawr, a'r Act of Union (Ireland) 1800 (1800 c.38 40 Geo 3), deddf a basiwyd yn Senedd Iwerddon. Ni ddaeth y mesur yn weithredol hyd 1 Ionawr, 1801.
Hyd y dyddiad yma, roedd Iwerddon wedi bod mewn undeb personol a Lloegr ers 1541, pan basiwyd mesur yn cyhoeddi Harri VIII, brenin Lloegr yn frenin Iwerddon.