Deddfau Uno 1707
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Deddf Uno 1707)
| Enghraifft o: | deddf Llywodraeth yr Alban, deddf Llywodraeth Lloegr |
|---|---|
| Dyddiad | 30 Ebrill 1707 |
| Dyddiad cyhoeddi | 1707 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr, Teyrnas yr Alban, Teyrnas Prydain Fawr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/012pp |
Deddfau Uno 1707 yw'r term a ddefnyddir am ddau Fesur Seneddol a basiwyd yn 1706 gan Senedd Lloegr ac yn 1707 gan Senedd yr Alban i ffurfio gwladwriaeth newydd Teyrnas Prydain Fawr a Senedd Prydain Fawr. Sefydlwyd y Deyrnas Prydain Fawr ar 1 Mai 1707.
Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a Theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahân (oedd yn rhannu yr un brenin) i fod yn un wladwriaeth fawr. Daeth hyn i rym ar 1 Mai 1707. O hynnny ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn Llundain. Ystyrid Cymru fel rhan o Deyrnas Lloegr yn gyfreithiol.
Ymddengys fod rhywfaint o lwgrwobrwyo wedi digwydd i sicrhau mwyafrif i'r mesur yn Senedd yr Alban. Cyfeiria Robert Burns at hyn:
- We were bought and sold for English Gold,
- Sic a Parcel of Rogues in a Nation.