David Rees Davies
Gwedd
| David Rees Davies | |
|---|---|
| Ffugenw | Cledlyn |
| Ganwyd | 6 Chwefror 1875 |
| Bu farw | 1964 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
Ysgolfeistr, hanesydd lleol a bardd o Gymru oedd David Rees Davies, enw barddol Cledlyn a oedd hefyd yn ysgrifennu fel D. Cledlyn Davies (6 Chwefror 1875 – 29 Rhagfyr 1964).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yng Nghwrtnewydd, Ceredigion. Aeth i Goleg Prifysgol Aberystwyth yn 1894, cyn mynd yn athro. Bu'n brifathro ysgol Cwrtnewydd o 1902 hyd ei ymddeoliad yn 1935.
Fel bardd, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yng Nghorwen 1919 am awdl Y proffwyd, ac yn yr Wyddgrug 1923 am awdl Dychweliad Arthur. Bu'n llywydd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1920, ac fel hanesydd lleol ysgrifennodd Hanes plwyf Llanwenog (1936) gyda'i ail wraig.