David Emrys Evans
David Emrys Evans | |
---|---|
Ganwyd |
29 Mawrth 1891 ![]() |
Bu farw |
20 Chwefror 1965 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
addysgwr, cyfieithydd, sgolor clasurol ![]() |
Cyflogwr |
Ysgolhaig Clasurol a chyfieithydd oedd David Emrys Evans (29 Mawrth 1891 – 20 Chwefror 1966), sy'n adnabyddus yn bennaf am ei gyfieithiadau safonol o weithiau Platon o'r Roeg i'r Gymraeg. Cyhoeddai wrth yr enw D. Emrys Evans.
Roedd yn frodor o Glydach yn Sir Abertawe (Morgannwg). Ar ôl cael ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru a Choleg Iesu, Rhydychen, cafodd ei benodi'n Athro'r Clasuron yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ym 1921. Ym 1927 cafodd ei benodi yn Brifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yno y treuliodd weddill ei yrfa academaidd hyd ei ymddeoliad ym 1958.[1]
Ysgrifennodd hanes Prifysgol Cymru a llyfr ar grefydd a chymdeithas, ond ei brif waith yw'r gyfres o gyfieithiadau o weithiau'r athronydd Groegaidd Platon, yn cynnwys y deialogau Socrataidd ac Y Wladwriaeth. Nodweddir y cyfeithiadau hyn gan eu harddull clasurol, urddasol a choeth.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gweithiau gwreiddiol
- Crefydd a Chymdeithas (1933)
- Y Clasuron yng Nghymru (1952). Darlith.
- The University of Wales, a Historical Sketch (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953)
- Cyfieithiadau o weithiau Platon
- Amddiffyniad Socrates (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
- Phaedon (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
- Ewthaffron: Criton (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943)
- Gorgias (1946)
- Y Wladwriaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|