Dario Fo
Dario Fo | |
---|---|
Ganwyd | Dario Luigi Angelo Fo 24 Mawrth 1926 Sangiano, Leggiuno |
Bu farw | 13 Hydref 2016 Luigi Sacco Hospital, Milan |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, actor llwyfan, sgriptiwr, cyfansoddwr, dramodydd, actor ffilm, darlunydd, arlunydd, bardd, cynllunydd llwyfan, dychanwr, llenor, dylunydd gwisgoedd, actor, artist, cyfarwyddwr, stage author, Nobel Prize winner, theater director |
Adnabyddus am | Archangels Don't Play Pinball, Mistero Buffo, Accidental Death of an Anarchist, Can't Pay? Won't Pay!, Trumpets and Raspberries, Elizabeth: Almost by Chance a Woman, The Pope and the Witch, The Two-Headed Anomaly |
Arddull | comedi |
Plaid Wleidyddol | Communist Refoundation Party |
Priod | Franca Rame |
Plant | Jacopo Fo |
Perthnasau | Alessandro Fo, Laura Fo |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Sonning Prize, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Premio Cinearti La chioma di Berenice, honorary doctor of the Sorbonne Nouvelle University |
Gwefan | http://www.dariofo.it/ |
llofnod | |
Llenor, canwr, ymgyrchydd gwleidyddol a dramodydd o'r Eidal oedd Dario Fo (24 Mawrth 1926 – 13 Hydref 2016), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1997.[1] Ymhlith ei ddramâu enwocaf mae: Non tutti i ladri vengono a nuocere (The Virtuous Burglar), Gli arcangeli non giocano al flipper (Dydy Archangylion Ddim Yn Chwarae Pinball), Mistero Buffo, Morte accidentale di un anarchico (Accidental Death of an Anarchist), Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!), Clacson, trombette e pernacchi (Trumpets and Raspberries), Coppia aperta, quasi spalancata (Elizabeth: Almost by Chance a Woman) ac Il Papa e la strega (Y Pab a'r Wrach).
"Gellir dadlau mai ef yw'r dramodydd cyfoes mwyaf poblogaidd drwy Ewrop,"[2] ac mae llawer o'i waith yn dibynnu ar ddawn yr actor i lenwi'r bylchau ei hun ac ymateb byw[2][3][3] a'r math o arddull Eidalaidd a elwir yn commedia dell'arte.[1]
Darlledwyd cyfres deledu o'i waith, Il teatro di Dario Fo, ar Sianel 2 yn yr Eidal. Roedd un o'r dramâu yn y gyfres, Parliamo di donne, (a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyfres ac ail-ryddhawyd yn rhyngwladol fel Let's Talk About Women) yn ymdrin â themâu cyfoes megis ysgariad, rhyw a'r "Teulu Sanctaidd".[4] Yn y 2010au symbylodd y mudiad gwrth-awdurdod "Pum Seren".[5][5] a chyfeiriwyd ato gan eu harweinwyr fel "Y Meistr".[6]
Mae ei waith pièce célèbre, Mistero Buffo wedi'i berfformio ar hyd a lled Ewrop, Canada, ac America Ladin dros 30 mlynedd yn cael ei gydnabod fel un o'r gweithiau mwya dadleuol a phoblogaidd erioed. Fe'i disgrifiwyd gan y Fatican fel "y cablu mwyaf yn hanes y teledu".[1] Mae teitl Saesneg Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!) bellach wedi'i dderbyn yn yr iaith honno ac ar dafod leferydd.[7]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Mitchell, Tony (1999). Dario Fo: People's Court Jester (ehangwyd). London: Methuen. ISBN 0-413-73320-3.
- Scuderi, Antonio (2011). Dario Fo: Framing, Festival, and the Folkloric Imagination. Lanham (Md.): Lexington Books. ISBN 9780739151112.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Dario Fo
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Mitchell 1999, tud. 3
- ↑ 2.0 2.1 Mitchell 1999, tud. xiii
- ↑ 3.0 3.1 Mitchell 1999, tud. 4
- ↑ Mitchell 1999, tud. 147
- ↑ 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-04. Cyrchwyd 2014-01-04.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-07. Cyrchwyd 2014-01-04.
- ↑ Gardner, Lyn (18 Ebrill 2010). "Low Pay? Don't Pay!". The Guardian. Cyrchwyd 18 Ebrill 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan Dario Fo