Damwain drên Sir Drefaldwyn
Gorsaf Drenau Aber-miwl yn 1953. | |
Enghraifft o'r canlynol | train wreck, gwrthdrawiad penben |
---|---|
Dyddiad | 26 Ionawr 1921 |
Lladdwyd | 17 |
Lleoliad | Aber-miwl |
Gweithredwr | Rheilffordd y Cambrian |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Rhanbarth | Powys |
Ar 26 Ionawr 1921 bu damwain ddifrifol pan ddaeth dau drên benben â'i gilydd. Damwain drên Sir Drefaldwyn yw'r ddamwain drên waethaf yng Nghymru erioed a'r unig un ar drac un lein.
Digwyddodd y ddamwain ar y lein rhwng y Drenewydd ac Aber-miwl; roedd y naill drên yn teithio o Aberystwyth i Fanceinion a'r llall yn teithio o Whitchurch, Swydd Amwythig, i Aberystwyth. Effaith y gwrthdrawiad oedd i injan un o'r trenau gael ei wthio i fyny i'r awyr a glanio ar ail gerbyd y trên arall. Lladdwyd 17 o bobl, ac yn eu plith roedd un o gyfarwyddwyr lein y Cambrian, Herbert Vane-Tempest. Ymhlith y rhai a laddwyd hefyd roedd Harold Owen Owen, un o gyfarwyddwyr siop Owen Owen, Lerpwl.[1] Lladdwyd gyrrwr y trên o'r Amwythig, sef George Jones hefyd.
Yn 1923 dilewyd y rhannau o'r lein a oedd yn sengl, gan ddyblu'r traciau a'i gwneud yn amhosibl i'r math yma o ddamweiniau ddigwydd eto. Rhoddwyd y bai ar staff Gorsaf reilffordd Aber-miwl am beidio a gwiro'r tocyn a roddwyd iddynt, sef y caniatâd angenrheidiol i'r trên fynd yn ei flaen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)