Daisy von Pless
Daisy von Pless | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1873, 18 Mehefin 1873 Castell Rhuthun |
Bu farw | 29 Mehefin 1943 Wałbrzych |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Ymerodraeth yr Almaen |
Galwedigaeth | nyrs, cymdeithaswr |
Tad | William Cornwallis-West |
Mam | Mary Cornwallis-West |
Priod | Hans Heinrich XV, 3rd Prince of Pless, Count of Hochberg |
Plant | Count Bolko von Hochberg, Baron zu Fürstenstein, Hans Heinrich XVII, 4th Prince of Pleß, Aleksander Hochberg |
Llinach | Hochberg |
Roedd Daisy, Tywysoges Pless (Mary Theresa Olivia; neu Cornwallis-West; 28 Mehefin 1873 – 29 June 1943) yn ferch brydferth nodedig yn y cyfnod Edwardaidd ac yn aelod o un o'r teuluoedd bonheddig cyfoethocaf yn Ewrop. Roedd Daisy a'i gŵr,Hans Heinrich XV[1] yn berchnogion ar un o'r stadau a'r glofeydd mwyaf yn Silesia (nawr yng Ngwlad Pwyl) ddaeth â chyfoeth mawr i'r Hochbergs. Roedd ei bywyd eithafol o foethus ynghyd â digwyddiadau trychinebus a sgandalau teuluol a gwleidyddol yn fêl ar fysedd cyfryngau rhyngwladol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Mary Theresa Olivia Cornwallis-West yng Nghastell Rhuthun yn Ninbych. Roedd yn ferch i Aelod Seneddol Orllewin Sir Ddinbych William Cornwallis-West a Mary ("Patsy"), merch y Parchedig Frederick Fitzpatrick. Bu sïon bod Patsy yn cael perthynas gydag Edward Tywysog Cymru.
Priododd ei chwaer, Constance (Shelagh), a Hugh Grosvenor, 2il Dug Westminster[2], un o ddynion cyfoethocaf y DU. Priododd George, ei brawd â'r Arglwyddes Randolph Churchill (Jennie Jerome), gweddw'r Arglwydd Randolph Churchill a mam Winston Churchill[3]. Ni fu'r un o'r priodasau'n llwyddiannus gan i'r tri diweddu mewn ysgariad. Daeth briodas George i ben ym 1914[4]. Daeth priodas Shelagh i ben ym 1919. Daeth priodas Tywysog a Thywysoges Pless i ben ym 1922.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MARRIAGE OF PRINCE HENRY OF PLESS AND MISS CORNWALLIS-WEST - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1891-12-12. Cyrchwyd 2018-06-16.
- ↑ "THE COMING MARRIAGE OF Miss Sheiagh Cornwallis-West AND THE Duke of Westminster - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1901-02-16. Cyrchwyd 2018-06-16.
- ↑ "Mrs George Cornwallis-West - Gwalia". Robert Williams. 1903-11-17. Cyrchwyd 2018-06-16.
- ↑ "Society Wedding Surprise - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1914-04-09. Cyrchwyd 2018-06-16.