Neidio i'r cynnwys

Daisy Duck

Oddi ar Wicipedia
Daisy Duck
Enghraifft o:hwyaden anthropomorffig, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, cymeriad bydysawd craidd Disney Edit this on Wikidata
CrëwrCarl Barks, Jack King Edit this on Wikidata
Rhan oSensational Six, Donald and Daisy Duck Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://mickey.disney.com/daisy Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02h8g edit this on wikidata
QuoraDaisy-duck-3 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Daisy Duck yn gymeriad cartŵn anthropomorffig a grëwyd ym 1940 gan gwmni Walt Disney Productions. Mae Daisy yn hwyaden gyda plu gwyn, llygaid duon a cholur lafant ar ei aeliau hirion. Yn nodweddiadol mae'n gwisgo daps, ffroc a bwa gwallt piws.[1] Mae hi'n gariad i Donald Duck ac yn ffrind gorau i Minnie Mouse.

Ymddangosiadau

[golygu | golygu cod]

Cododd Daisy i enwogrwydd gyda'i rolau mewn cartwnau animeiddiedig Disney yn y 1940au. Roedd ymddangosiad cyntaf Daisy ym 1940 yn y ffilm Mr Duck Steps Out [2] lle mae Donald a'i neiaint Huey, Dewey a Louie yn cyfarfod a hi am y tro cyntaf.

Ers hynny mae wedi ymddangos mewn dros 16 o ffilmiau. Ei ymddangosiad diweddaraf mewn ffilm theatrig oedd Fantasia 2000 yn y flwyddyn 2000. Mae Daisy hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau syth i fideo megis Mickey's Once Upon a Christmas (1999) Mickey's Magical Christmas: Snowed in at the House of Mouse (2001), Mickey's House of Villains (2002), Mickey, Donald and Goofy: The Three Musketeers (2004) a Mickey's Twice Upon a Christmas (2004).

Mae Daisy wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu'r Disney Channel gan gynnwys Quack Pack , Mickey Mouse Works a Mickey Mouse Clubhouse

Mae hi wedi ymddangos mewn nifer o Gemau Fideo gan gynnwys:

Cymeriad

[golygu | golygu cod]

Mae Daisy yn enwog am ei hoffter o siopa, ffasiwn, dawnsio a phartïon. Mae hi'n casáu diffyg parch a diffyg moesoldeb, twyllo ac annhegwch.

Lleisio

[golygu | golygu cod]

Lleisiwyd Daisie yn wreiddiol gan Gloria Blondell (1945-1950) ers hynny mae wedi cael ei lleisio gan

  • Ruth Clifford (1948)
  • Vivi Janiss (1954)
  • June Foray (1959, 1960)
  • Patricia Parris (1983)
  • Kath Soucie (1996-1998)
  • Diane Michelle (1998-1999)
  • Tress MacNeille (1999-cyfredol)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]