The Walt Disney Company

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Walt Disney Productions)
Jump to navigation Jump to search
The Walt Disney Company
TWDC Logo.svg
Math Cyhoeddus
Sefydlwyd Los Angeles, Califfornia, Unol Daleithiau[1]
(16 Hydref 1923)
Sylfaenydd Walt Disney a Roy O. Disney
Rhagflaenydd Laugh-O-Gram Studio
Pencadlys 500 South Buena Vista Street,
Burbank, Califfornia, Unol Daleithiau 34°09′22″N 118°19′31″W / 34.156207°N 118.325189°W / 34.156207; -118.325189Cyfesurynnau: 34°09′22″N 118°19′31″W / 34.156207°N 118.325189°W / 34.156207; -118.325189
Ardal wasanaethu Byd-eang
Pobl blaenllaw Bob Iger (Cadeirydd a Phrif Weithredwr)
Diwydiant Cyfryngau torfol
Adloniant
Cynnyrch Teledu cebl, cyhoeddi, ffilm, cerddoriaeth, gemau fideo, parciau thema, darlledu, radio, pyrth gwe
Gwasanaethau Trwyddedu
Refeniw increase US$ 48.813 biliwn (2014)[2]:25
Incwm gweithredol increase US$ 12.246 biliwn (2014)[2]:26
Incwm net increase US$ 08.004 biliwn (2014)[2]:26
Cyfanswm asedau increase US$ 84.186 biliwn (2014)[2]:66
Soddgyfran Decrease US$ 44.958 biliwn (2014)[2]:66
Gweithwyr 180,000 (2014)[2]
Adrannau
Is-gwmnïau
Gwefan thewaltdisneycompany.com

Cwmni amlwladol Americanaidd yn niwydiannau'r cyfryngau torfol ac adloniant yw The Walt Disney Company, a adwaenir yn aml fel Disney, sydd a'i bencadlys Walt Disney Studios yn Burbank, Califfornia. Disney yw cwmni darlledu a theledu cebl ail fwyaf y byd yn nhermau refeniw; Comcast yw'r mwyaf.[3] Sefydlwyd cwmni Disney ar 16 Hydref 1923 gan Walt Disney a Roy O. Disney dan yr enw Disney Brothers Cartoon Studio. Daeth yn arweinydd yn niwydiant animeiddio'r Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach mewn cynhyrchu ffilmiau, teledu, a pharciau thema. Gweithredodd y cwmni dan yr enwau The Walt Disney Studio a Walt Disney Productions (1929–86).[4] Mabwysiadodd ei enw cyfredol ym 1986, a thyfodd ei weithredoedd a hefyd sefydlodd adrannau sy'n ymwneud â'r theatr, radio, cerddoriaeth, cyhoeddi, a chyfryngau ar-lein.

Y pencadlys corfforaethol, Walt Disney Studios.

Mae rhai o adrannau Disney yn marchnata cynnyrch o natur fwy aeddfed na'r prif frandiau a anelir at blant a theuluoedd. Cynnyrch enwocaf y cwmni yw ei ffilmiau a wneir gan Walt Disney Studios, sydd yn un o'r stiwdios ffilm mwyaf ei maint yn sinema'r Unol Daleithiau. Mae Disney hefyd yn berchen ar y rhwydwaith teledu ABC a sianeli cebl gan gynnwys y Disney Channel, ESPN, A+E Networks, ac ABC Family; adrannau cyhoeddi, marsiandïaeth, cerddoriaeth, a theatr; ac yn berchen ar 14 o barciau thema o gwmpas y byd. Mae'r cwmni'n rhan o'r Dow Jones Industrial Average ers 6 Mai 1991. Symbol amlycaf Disney yw'r cymeriad cartŵn Mickey Mouse.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]