David Emrys Evans

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o D. Emrys Evans)
David Emrys Evans
Ganwyd29 Mawrth 1891 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethaddysgwr, cyfieithydd, ysgolhaig clasurol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Clasurol a chyfieithydd oedd David Emrys Evans (29 Mawrth 189120 Chwefror 1966), sy'n adnabyddus yn bennaf am ei gyfieithiadau safonol o weithiau Platon o'r Roeg i'r Gymraeg. Cyhoeddai wrth yr enw D. Emrys Evans.

Roedd yn frodor o Glydach yn Sir Abertawe (Morgannwg). Ar ôl cael ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru a Choleg Iesu, Rhydychen, cafodd ei benodi'n Athro'r Clasuron yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ym 1921. Ym 1927 cafodd ei benodi yn Brifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yno y treuliodd weddill ei yrfa academaidd hyd ei ymddeoliad ym 1958.[1]

Ysgrifennodd hanes Prifysgol Cymru a llyfr ar grefydd a chymdeithas, ond ei brif waith yw'r gyfres o gyfieithiadau o weithiau'r athronydd Groegaidd Platon, yn cynnwys y deialogau Socrataidd ac Y Wladwriaeth. Nodweddir y cyfieithiadau hyn gan eu harddull clasurol, urddasol a choeth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweithiau gwreiddiol[golygu | golygu cod]

Cyfieithiadau o weithiau Platon[golygu | golygu cod]

  • Amddiffyniad Socrates (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
  • Phaedon (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
  • Ewthaffron: Criton (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943)
  • Gorgias (Gwasg Prifysgol Cymru, 1946)
  • Y Wladwriaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru