Côt ddyffl
Côt a wneir o frethyn bras a thrwm a chanddo geden drwchus yw côt ddyffl. Fel rheol côt dri chwarter hyd o doriad siâp bocs ydyw sydd yn ffitio'n llac, a chanddi bocedi clwt, iau sgwâr dros yr ysgwyddau, a bachau a wneir o bren neu gorn a dolenni cywarch i gau'r gôt. Dyma'r unig gôt uchaf draddodiadol a chanddi gwfl.[1]
Enwir brethyn dyffl ar ôl tref Duffel, a leolir heddiw yng Ngwlad Belg, lle cafodd ei gynhyrchu am y tro cyntaf yn yr 17g. Yn draddodiadol cafodd dillad dyffl ei wisgo gan bysgotwyr. Datblygodd y gôt ddyffl yng Ngwlad Pwyl yn hanner cyntaf y 19g. Y dylunydd a gwerthwr cotiau John Partridge oedd y cyntaf i werthu'r gôt ddyffl yn y Deyrnas Unedig yn 1890. Mabwysiadwyd y gôt gan y Llynges Frenhinol yn nechrau'r 20g i ddiogelu morwr rhag y tywydd a'r tonnau ar fwrdd y llong. Gwisgodd y Cadlywydd Bernard Montgomery gôt ddyffl lwydfelen yn ystod Ymgyrch Gogledd Affrica yn yr Ail Ryfel Byd. Wedi diwedd y rhyfel, gwerthwyd nifer fawr o gotiau dyffl dros ben y lluoedd arfog yn y Deyrnas Unedig ac yn Unol Daleithiau America. Daeth yn gôt boblogaidd i gadw'n gynnes yn y gaeaf, yn enwedig i blant bychain. Gwisgwyd hefyd yn ddilledyn cwlt gan fyfyrwyr a deallusion, fel arfer gyda siwmper fôr, sgarff goleg, a throwsus melfaréd.[1]