Ymgyrch Gogledd Affrica

Oddi ar Wicipedia
Ymgyrch Gogledd Affrica
Enghraifft o'r canlynolymgyrch filwrol Edit this on Wikidata
Rhan oMediterranean and Middle East Theater of World War II Edit this on Wikidata
Dechreuwyd10 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Mai 1943 Edit this on Wikidata
LleoliadItalian Libya, Brenhiniaeth yr Aifft, Algeria Ffrengig, French protectorate of Tunisia, Protectoriaeth Ffrengig ym Moroco Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWestern Desert campaign Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o'r Ail Ryfel Byd oedd Ymgyrch Gogledd Affrica a ddigwydd yng Ngogledd Affrica o 10 Mehefin 1940 hyd 13 Mai 1943. Roedd yn cynnwys brwydrau yn anialwch Libia, anialwch yr Aifft, Moroco ac Algeria, a Thiwnisia.

Ar 13 Medi 1940, ymosododd mwy na 200,000 o filwyr yr Eidal ar yr Aifft, gyda'r bwriad o gael rheolaeth tros Gamlas Suez a meysydd olew'r Dwyrain Canol. Gorchfygwyd hwy mewn nifer o frwydrau gan y fyddin Brydeinig, a bu raid i Mussolini alw ar Hitler am gymorth. Gyrrwyd yr Afrikakorps i Ogledd Affrica, a than Erwin Rommel gyrrodd y Prydeinwyr yn ôl am gyfnod. Ni allai'r Almaen ei atgyfnerthu, fodd bynnag, ac roedd yn brin o olew. Yn 1942, gorchfygwyd yr Afrikakorps gan y Prydeinwyr dan Bernard Montgomery ym mrwydr El Alamein. Glaniodd yr Americanwyr yn Algeria a Moroco, ac yn raddol gyrrwyd yr Almaenwyr o Ogledd Affrica. Ym mis Mai 1943, ildiodd yr Almaenwyr ac Eidalwyr olaf yn Tiwnisia. Gwnaeth hyn ymosodiad ar yr Eidal yn bosibl.

Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.