Santes Cywair
Santes Cywair | |
---|---|
Ganwyd | 455, 6 g Cymru |
Man preswyl | Llangywer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 11 Gorffennaf |
Santes a gysylltir gydag eglwys Llangywair ger y Bala, Gwynedd ydy Cywair, neu ar lafar Cywer neu Cowair. Ceir yn yr hen blwyf garreg gyda chroes arni o'r enw 'Llech Gower' a thua chwarter milltir o'r eglwys ceir 'Ffynnon Gower' a arferid ei defnyddio i ymdrochi plant a oedd yn diddef o'r llechau (rickets). Mae'r eglwys a'r ffynnon wedi'u cofrestru'n Gradd II gan Cadw (Rhifau cofrestru: 83586 a 83587).[1] Enw'r eglwys yn Llangywer ydy Eglwys Gwawr, ond credir fod Gwawr yn berson gwahanol, bellach, un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog ac yn fam i Llywarch Hen.[2][3]
Ystyr yr enw yw'r "un aur" a gall hynny gyfeirio nid yn unig at burdeb cymeriad y person ond hefyd at ei morwyndod, ond nid yw hyn yn debygol gan nad oedd yr Eglwys Geltaidd yn rhoi pwyslais ar ddiweirdeb. Mae hefyd yn bosibl (ond yn annhebygol iawn) mai gwryw ydoedd y sant hwn.[4] Mae ei gŵyl mabsant ar 11 Gorffennaf - "pythefnos union wedi Dydd Sant Pedr" yn ôl Edward Lhuyd.
Chwedl leol
[golygu | golygu cod]Yn ôl chwedl leol, roedd gan Cywair gysylltiad gyda'r cymeriad chwedlonol Tegid Foel. Dywedir fod ganddi ffynnon lle saif Llyn Tegid heddiw, o'r enw 'Ffynnon Gywer', gyferbyn a'r pentref Llangywer. Roedd y Bala yr adeg honno o gwmpas y ffynnon, cyn bod yno lyn. Roedd clawr neu geuad i'r ffynnon, ac anghofiwyd ei rhoi ar y ffynnon un noson, ac erbyn y bore roedd y dref wedi'i boddi a llyn wedi'i ffurfio.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Penrhyn Gŵyr
- Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Lives of the British Saints tud. 278; adalwyd 5 Ebrill 2016
- ↑ Jones, tt. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd Mai 2016
- ↑ Dictionary of Patron Saints' Names gan Thomas W. Sheehan.