Cynthia Ozick

Oddi ar Wicipedia
Cynthia Ozick
GanwydCynthia Shoshana Ozick Edit this on Wikidata
17 Ebrill 1928 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr O. Henry, honorary doctor of Brandeis University, honorary doctor of Georgetown University Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Iddewig, Americanaidd yw Cynthia Ozick (ganwyd 17 Ebrill 1928) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau, ei straeon byrion a'i thraethodau.

Ganed Cynthia Ozick yn Ninas Efrog Newydd, yr ail o ddau blentyn. Symudodd i'r Bronx gyda'i rhieni o Rwsia, Celia (Regelson) a William Ozick, perchnogion Fferyllfa Park View yng nghymdogaeth Bae Pelham. Fel merch, helpodd Ozick i rannu'r presgripsiynau i gwsmeriaid ei rhieni. O'i hamser yn y Bronx, mae'n cofio cerrig yn cael eu taflyd arni a chael ei galw'n "lladdwr Crist" wrth iddi redeg heibio'r ddwy eglwys yn ei chymdogaeth. Yn yr ysgol cafodd ei chywilyddio'n gyhoeddus am wrthod canu carolau Nadolig. Mynychodd Ysgol Uwchradd Hunter College yn Manhattan.[1][2][3][4]

Enillodd ei B.A. o Brifysgol Efrog Newydd ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Talaith Ohio, lle cwblhaodd M.A. mewn llenyddiaeth Saesneg, gan ganolbwyntio ar nofelau Henry James.[5]

Mae Ozick yn briod â Bernard Hallote, cyfreithiwr. Mae eu merch, Rachel Hallote, yn athro cysylltiol hanes yn SUNY Purchase ac yn bennaeth ar ei rhaglen astudiaethau Iddewig. Ozick yw nith yr Hebraist Abraham Regelson. Mae hi'n byw yn Westchester County, Efrog Newydd.[5]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae ffuglen a thraethodau Ozick yn aml yn ymwneud â bywyd America Iddewig, ond mae hefyd yn ysgrifennu am wleidyddiaeth, hanes, a beirniadaeth lenyddol. Yn ogystal, mae hi wedi ysgrifennu a chyfieithu barddoniaeth. Mae'r Holocost a'i ganlyniadau hefyd yn brif thema ganddi. Archwilia'r "hunan-ddrwg" o fewn pobl, ailadeiladu hunaniaeth ar ôl mewnfudo, trawma a symud o un dosbarth i'r llall.[6]

Dywed Ozick nad yw'n ysgrifennu o ddewis, ond oherwydd "a kind of hallucinatory madness. You will do it no matter what. You can’t not do it."[7]

Galwodd y nofelydd David Foster Wallace Ozick yn un o awduron cyfoes mwyaf America. Fe'i disgrifiwyd fel "the Athena of America’s literary pantheon", fel "Emily Dickinson of the Bronx," ac yn "one of the most accomplished and graceful literary stylists of her time".[8]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America, Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1982), Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2007), Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr O. Henry (1975), honorary doctor of Brandeis University, honorary doctor of Georgetown University .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024884w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024884w. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cynthia Ozick". "Cynthia Ozick". "Cynthia Ozick". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 15 Rhagfyr 2014
  5. 5.0 5.1 Profile: Cynthia Ozick Archifwyd 2012-04-23 yn y Peiriant Wayback.
  6. Emma Brockes. "A life in writing: Cynthia Ozick", The Guardian, 2 Gorffennaf 2011
  7. "Profile: Cynthia Ozick - Hadassah Magazine". 28 Chwefror 2012. Cyrchwyd 12 Ionawr 2018.
  8. Brief Interview with a Five Draft Man Archifwyd 2011-12-30 yn y Peiriant Wayback., Amherst Magazine