Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli
Daearyddiaeth
Statws Dosbarth Gwledig
Pencadlys Llanelli
Hanes
Tarddiad Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894
Crëwyd 1894
Diddymwyd 1974
Ailwampio Cyngor Bwrdeistref Llanelli

Mae Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ne Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cymru a grëwyd ym 1894.

Roedd y Cyngor Dosbarth Gwledig yn gyfrifol am dai, glanweithdra ac iechyd y cyhoedd ac roedd ganddo hefyd rywfaint o reolaeth dros ffyrdd a chyflenwad dŵr.

Roedd yr awdurdod yn cwmpasu cymunedau Pwll, Ffwrnais, Felinfoel, Dafen, Llwynhendy, Bynea a Dyffryn y Swisdir (Cwm Lliedi), yn ogystal â phentrefi Pont-iets (rhan), Pont Henri a Phwmp-hewl.

Ymgyrch y Beasleys[golygu | golygu cod]

O 1954 ymlaen gwrthododd y cyngor ddarparu galw ardrethi yn Gymraeg i Eileen Beasley er bod 90% o drigolion y cylch ar y pryd yn siarad Cymraeg, brwydr a barhaodd am 16 mlynedd cyn ildio.[1]

Diddymy[golygu | golygu cod]

Diddymwyd yr awdurdod ag ymino gyda Bwrdeistref Ddinesig Llanelli yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, a chymerwyd ei rôl gan Cyngor Bwrdeistref Llanelli.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Branwen (2023-05-31). "Campaign to save house of a couple who refused to pay English-only tax bills". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-02.