Neidio i'r cynnwys

Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch
Dynodwyr

Cystadleuaeth pêl-droed a gynhelir yn ystod yr haf yw Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch. Cynhelir y gemau rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf ar nosweithiau Llun a Iau rhwng timau o bentrefi a phlwyfi Nyffryn Clwyd. Sefydlwyd y gynghrair ym 1927 er mwyn "caniatáu i amaethwyr, oedd yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, gael y cyfle i chwarae'r gêm brydferth".[1] Rhaid i chwaraewr fod yn byw o fewn y plwyf i gynrychioli'r plwyf hwnnw.

Yn 2017 roedd 12 tîm yn cystadlu yn y gynghrair. Yn haf 2007 enillodd Clawddnewydd y gynghrair am y tro cyntaf erioed yn eu hanes.[2]

Mae'r timau hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth bwrw allan i ennill y darian ar ddiwedd y tymor.

Cystadlaethau timau iau a thimau merched.

[golygu | golygu cod]

Yn 1977 cyflwynwyd dwy gystadleuaeth newydd i goffa tymor y jiwbilî. Llwyfannodd cystadleuaeth saith bob ochr i blant ysgol gynradd; Rhewl oedd y buddugwyr gan guro Llandyrnog yn y rownd derfynol. Roedd hefyd gystadleuaeth curo allan ar gyfer rhai o dan 16 oed, gydag un ar ddeg o chwaraewyr bob ochr. Chwaraewyd y rownd derfynol yn Nhremeirchion a churodd Llandyrnog tîm Rhewl.[3]

Yn 2023 cynhaliwyd cystadleuaeth saith bob ochr ar gyfer merched am y tro cyntaf.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Erthyl am y gyngrhair ar BBC Cymru'r Byd.
  2.  Erthyl diwedd tymor 2007 yn y Denbighshire Free Press.
  3. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  4. Davies, Shaun (26 Mehefin 2023). "History made at Summer League's first women's event". Denbighshire Free Press. Cyrchwyd 27 Mai 2026.

Dolenni

[golygu | golygu cod]