Cynan Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cynan Jones
Ganwyd 1975 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth nofelydd Edit this on Wikidata

Awdur o Gymro yw Cynan Jones (ganed 1975). Fe'i magwyd ger Aberaeron, Ceredigion, ac mae'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion.[1] Cyhoeddodd Jones ei nofel gyntaf, The Long Dry, yn 2006. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd tair nofel rhwng 2011 a 2014. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i ieithoedd eraill, ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o gasgliadau a chyhoeddiadau fel Granta a New Welsh Review. Darlledwyd ei stori A Glass of Cold Water ar BBC Radio 4 ym mis Mai 2014.[1][2]

Yn 2016, trodd ei law at sgriptio teledu gan ysgrifennu yr ail bennod yn nhrydedd cyfres Y Gwyll. Ym mis Hydref 2016, fe'i benodwyd yn Gymrawd Ysgrifennydd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.[3]

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfarnwyd gwobr Betty Trask i'w nofel gyntaf The Long Dry yn 2007.[4] Yn 2008, fe'i dewiswyd ar gyfer prosiect Scritture Giovani yng Ngŵyl y Gelli. Cafodd pennod o Y Dig, a gyhoeddwyd gyntaf yn Granta Magazine, ei ddewis ar gyfer rhestr fer gwobr Sunday Times EFG Private Bank Short Story yn 2013.[5] Enillodd ei nofel The Dig, wobr Jerwood Fiction Uncovered yn 2014 a daeth i'r brig yng Ngwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2015. Roedd y nofel hefyd ar restr hir Gwobr Kirkus 2014 yn yr Unol Daleithiau ac y Warwick Prize for Writing 2014.

Arddull ysgrifennu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn cyfweliad gyda Cynan Jones am The Dig, mae'r awdur yn sôn am "sbarduno adweithiau [yn y darllenydd], heb fod yn rhy syfrdanol."[6] Eglurodd hefyd ei ddefnydd o iaith fwy barddonol ar gyfer rhai cymeriadau er mwyn eu cadw nhw ar wahân neu yn "adlewyrchu" agwedd o'u cymeriad. Wrth ddefnyddio "alegorïau ffisegol a naturiol" i ddweud pethau am bobl, dylai'r darllenydd "ddeall y cyfeiriad yn reddfol."[6] Mae'n crybwyll ysgrifennu fel "Steinbeck, er enghraifft, gyda The Long Dry".[6]

Mewn cyfweliad arall, mae Jones yn mynd i'r afael yn y syniad bod yno yn "alegori naturiol yng nghraidd [ei lyfrau] sydd yn wirioneddol dweud wrth rywun am y sefyllfa ddynol".[7] Mae'n dweud am "ymddiried yn y darllenwyr" fel y gallwch wneud neu ddweud pethau a fydd yn "denu llygad y darllenydd" ac nid oes rhaid "adeiladu naratif" sydd yn debycach i "ysgrifennu drwy rifau".[7] Pan ofynnwyd iddo am "y trais a'r gorfelys" mae llawer o lenyddiaeth yn osgoi, dywed Jones ei fod yn ymddiried yn y darllenydd i gael dealltwriaeth o natur "cynhenid" sefyllfa a'r oll sydd rhaid iddo wneud yw "ei ysgrifennu i lawr mor glir ag y gallaf, a heb farn", yn fwy fel tyst na voyeur.[8]

Yn 2014, cafodd Jones sylw am beidio atalnodi rhan fwyaf o'r testun llafar yn ei nofel The Dig (ac ychydig o straeon byrion arall). Roedd lleferydd a syniadau ei gymeriadau wedi defnyddio dyfynodau nes i John Freeman, golygydd y cylchgrawn Granta, gymryd cyfle a dileu'r dyfynodau er mwyn bod "yn fwy uniongyrchol, fwy gyda hi". Cytunodd yr awdur am effaith y ddyfais anghonfensiynol hon a gorffennodd gweddill y llyfr yn y dull yma, ac eithrio un sgwrs rhwng y prif gymeriad a'i fam. Yn y darn hynny, defnyddiodd Jones ddyfynodau arferol "i greu ymdeimlad o ddeialog mwy confensiynol, digyffro." Roedd awduron fel Cormac McCarthy, James Joyce, a Samuel Beckett wedi arbrofi gyda'r un dull o hepgor atalnodi. Drwy wneud hyn, aeth Jones yn erbyn confensiwn sydd wedi bod yn arferol ers o leiaf ddiwedd y 18g.[9]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]