Cyn-eclampsia

Oddi ar Wicipedia
Cyn-eclampsia
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathgestational hypertension, gordensiwn, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Cyn-eclampsia (Pre-eclampsia, PE) yn anhwylder beichiogrwydd sy'n cael ei adnabod drwy bwysau gwaed uchel ac yn aml o ganlyniad i swm sylweddol o brotein yn y dŵr.[1][2] Os y daw cyn-eclampsia i fodolaeth, bydd yr anhwylder yn dechrau ar ôl yr 20fed wythnos o feichiogrwydd.[3] Mewn achosion difrifol efallai y bydd nifer y celloedd coch yn dirywio, cyfri isel yn y platennau gwaed, gweithgarwch diffygiol yn yr arennau, camweithriad yr arennau, chwyddo, prinder anadl oherwydd hylif yn yr ysgyfaint, neu amhariadau gweledol. Cynyddir risg canlyniadau gwael i'r fam a'r babi gan cyn-eclampsia.[4] Os nad ydyw'n cael ei drin, gallai achosi trawiadau (seizures), ac ar y pwynt hwnnw fe'i adnabyddir fel eclampsia.

Mae ffactorau risg ar gyfer cyn-eclampsia yn cynnwys gor-dewrda, problemau blaenorol gyda phwysau gwaed uchel, oedran hŷn a chlefyd y siwgr (diabetes mellitus). Mae hefyd yn fwy cyffredin mewn beichiogrwydd cyntaf ac os ydy'r fenyw yn cario efeilliaid. Y rheswm am ddatblygiad y clefyd yw bod y pibellau gwaed (blood vessels) yn y brych yn ffurfio'n abnormal, ynghŷd â ffactorau eraill. Mae'r rhanfwyaf o achosion yn cael eu darganfod cyn esgor. Yn anaml iawn, mae cyn-eclampsia yn gallu dechrau yn y cyfnod ar ôl esgor. Er yn hanesyddol roedd pwysau gwaed uchel a phrotein yn y dŵr yn gorfod cael eu canfod er mwyn gwneud diagnosis, mae rhai diffiniadau yn cynnwys rheiny sydd â phwysedd gwaed uchel (hypertension) ac unrhyw gamweithrediad gysylltiedig o'r organnau.[5] Mae pwysau gwaed yn cael ei ystyried yn uchel os ydy'n fwy na 140 mmHg systolic neu 90 mmHg diastolic ar ddau amser gwahanol, dros bedair awr o'i gilydd, mewn dynes ar ôl yr ugeinfed wythnos o feichiogrwydd. Ysgrinir yn gyson am cyn-eclampsia yn ystod gofal cynenedigol.[6]

Mae'r argymhellion ar gyfer atal cyn-eclampsia yn cynnwys: aspirin i'r rheiny sy'n uchel eu risg, ychwanegiadau calsiwm mewn ardaloedd lle nad yw pobl yn cymryd digon o galsiwm yn eu bwyd, a thriniaeth o bwysau gwaed uchel blaenorol (hypertension) drwy feddygyniaethau.[7] I'r rhai sydd â chyn-eclampsia, mae esgor ar y babi a'r palcenta yn driniaeth effeithiol. Mae argymell esgor ar y babi yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydy'r cyn-eclampsia a pha mor bell yn y feichiogrwydd ydy'r fenyw. Gellid defnyddio meddygyniaeth ar gyfer pwysau gwaed, fel labetalolmethyldopa, i wella cyflwr y fam cyn esgor. Gellid defnyddio Magnesium sulfate i osgoi eclampsia i'r rheiny sydd â'r salwch yn ddifrifiol. Nid ydy gorffwys yn y gwely na chymryd halen wedi'u profi'n ddefnyddiol o ran triniaeth na chwaith fel gweithgareddau i rwystro'r salwch.

Mae cyn-eclampsia yn effeithio ar 2–8% o bob beichiogrwydd ar draws y byd.[8] Anhwylderau gorbwysedd sy'n gysylltiedig â beichigrwydd (hypertensive disorders of pregnancy), gan gynnwys cyn-eclampsia, yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganlyniad i feichiogrwydd.[9] Bu farw 46,900 yn 2015. Mae cyn-eclampsia fel arfer yn digwydd ar ôl wythnos 32 yn y feichiogrwydd; fodd bynnag, os dechreuir yn gynt, mae'r canlyniadau o bosib yn waeth. Mae menywod sydd wedi cael cyn-eclampsia yn wynebu risg uwch o glefyd y galon a strôc yn ddiweddarach yn eu bywydau.[10] Daw'r gair eclampsia o'r Groeg am fellten. Mae'n debyg y daw'r disgrifiad cyntaf o'r cyflwr gan Hippocrates yn y 5g CC.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eiland, Elosha; Nzerue, Chike; Faulkner, Marquetta (2012). "Preeclampsia 2012". Journal of Pregnancy 2012: 1–7. doi:10.1155/2012/586578.
  2. Hypertension in pregnancy. ACOG. 2013. t. 2. ISBN 9781934984284. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-18. Cyrchwyd 2018-03-23.
  3. Al-Jameil, N; Aziz Khan, F; Fareed Khan, M; Tabassum, H (February 2014). "A brief overview of preeclampsia.". Journal of clinical medicine research 6 (1): 1–7. doi:10.4021/jocmr1682w. PMC 3881982. PMID 24400024. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3881982.
  4. "Hypertension in pregnancy. Report of the American College of Obstetricians and Gynecologists’ Task Force on Hypertension in Pregnancy.". Obstet. Gynecol. 122 (5): 1122–31. Nov 2013. doi:10.1097/01.AOG.0000437382.03963.88. PMID 24150027. http://www.tsop.org.tw/db/CFile/File/8-1.pdf. Adalwyd 2018-03-23.
  5. Lambert, G; Brichant, JF; Hartstein, G; Bonhomme, V; Dewandre, PY (2014). "Preeclampsia: an update.". Acta Anaesthesiologica Belgica 65 (4): 137–49. PMID 25622379.
  6. US Preventive Services Task, Force.; Bibbins-Domingo, K; Grossman, DC; Curry, SJ; Barry, MJ; Davidson, KW; Doubeni, CA; Epling JW, Jr et al. (25 April 2017). "Screening for Preeclampsia: US Preventive Services Task Force Recommendation Statement.". JAMA 317 (16): 1661–1667. doi:10.1001/jama.2017.3439. PMID 28444286.
  7. Henderson, JT; Whitlock, EP; O'Connor, E; Senger, CA; Thompson, JH; Rowland, MG (May 20, 2014). "Low-dose aspirin for prevention of morbidity and mortality from preeclampsia: a systematic evidence review for the U.S. Preventive Services Task Force.". Annals of Internal Medicine 160 (10): 695–703. doi:10.7326/M13-2844. PMID 24711050. https://archive.org/details/sim_annals-of-internal-medicine_2014-05-20_160_10/page/695.
  8. WHO recommendations for prevention and treatment of pre-eclampsia and eclampsia (PDF). 2011. ISBN 978-92-4-154833-5.
  9. Arulkumaran, N.; Lightstone, L. (December 2013). "Severe pre-eclampsia and hypertensive crises". Best Practice & Research Clinical Obstetrics & Gynaecology 27 (6): 877–884. doi:10.1016/j.bpobgyn.2013.07.003. PMID 23962474.
  10. Steegers, Eric AP; von Dadelszen, Peter; Duvekot, Johannes J; Pijnenborg, Robert (August 2010). "Pre-eclampsia". The Lancet 376 (9741): 631–644. doi:10.1016/S0140-6736(10)60279-6. PMID 20598363.
  11. Emile R. Mohler (2006). Advanced Therapy in Hypertension and Vascular Disease. PMPH-USA. tt. 407–408. ISBN 9781550093186.