Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Bêl-droed Estonia

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bêl-droed Estonia
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd14 Rhagfyr 1921[1]
Aelod cywllt o FIFA1923
Aelod cywllt o UEFA1992
LlywyddAivar Pohlak (2007–)
Gwefanjalgpall.ee/

Cymdeithas Bêl-droed Estonia (Estoneg: Eesti Jalgpalli Liit; EJL) yw corff llywodraethu pêl-droed, pêl-droed traeth a futsal yn Estonia. Wedi'i sefydlu ar 14 Rhagfyr 1921,[2] mae'n trefnu'r gynghrair bêl-droed, gan gynnwys y bencampwriaeth o'r enw y Meistriliiga (y prif adran), Cwpan Estonia a thîm pêl-droed cenedlaethol Estonia. Mae wedi'i leoli yn y brifddinas, Tallinn. Daeth EJL yn aelod o FIFA ym 1923, ond ar ôl i Estonia gael ei chyfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd fe'i diddymwyd. Daeth yn aelod eto yn 1992 ar ôl i Estonia adfer ei hannibyniaeth.

EJL yw'r gymdeithas chwaraeon fwyaf yn Estonia, gyda mwy na 30 o weithwyr amser llawn ac yn dod â bron i 10,000 o chwaraewyr cofrestredig ynghyd.[3]

Rhagflaenydd EJL oedd y Tallinna Jalapalli Liit.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn haf 1922, anfonodd Cymdeithas Bêl-droed Estonia gais ffurfiol at FIFA. Ar 1 Tachwedd 1922, rhoddodd FIFA gydnabyddiaeth ragarweiniol i'r EJL, ac yng Nghyngres Genefa yn 1923, cynhwyswyd Estonia fel aelod o FIFA (yn yr un gyngres, derbyniwyd Latfia hefyd a chydnabuwyd Cynghrair Chwaraeon Lithwania). Bryd hynny, roedd 20 aelod gan FIFA. Yn 1924, cymerodd cynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Estonia ran yng Nghyngres FIFA ym Mharis fel rhai oedd eisoes â hawl i bleidleisio. Roedd William Fiskar, Aleksander Lugenberg, Otto Silber, Bernhard Rein a Harald Kaarmann o Estonia ymhlith y 76 o gynrychiolwyr o 27 o wledydd.[4][5][5]

Mae EJL wedi bod yn aelod o FIFA ers 1923 ac yn aelod o UEFA ers 1992. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chyfnod dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd a chyn adfer yr EJL, trefnwyd y bywyd pêl-droed lleol gan Ffederasiwn Pêl-droed SSR Estonia.

Yn 1997 tynnodd yr EJL ei hun o aelodaeth o'r Eesti Spordi Keskliit (Cymdeithas Chwaraeon Estonia).[6]

Ffrae[golygu | golygu cod]

Yn 2017, rhoddodd FIFA ddirwy o 30,000 o ffranc Swisaidd (26,000 ewro) i Gymdeithas Bêl-droed Estonia a rhoddodd rybudd iddynt oherwydd digwyddiad pan daflodd cefnogwyr Bosnia a Herzegovina ddeunydd llosgi ar y cae.[7]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Eesti Jalgpalli Liidu põhikiri" (PDF). jalgpall.ee (yn Estoneg). EJL. t. 5. Cyrchwyd 18 January 2023.
  2. "Eesti Jalgpalli Liidu põhikiri" (PDF). jalgpall.ee (yn Estoneg). EJL. t. 5. Cyrchwyd 18 January 2023.
  3. Eesti Jalgpalli Liit tähistab 88. sünnipäeva, datganiad i'r wasg gan Gymdeithas Bêl-droed Estonia, Rhagfyr 14, 2009
  4. Koik, Lembit, gol. (1970). Jalgpall. Minevikust tänapäevani (yn eesti). Tallinn: Eesti Raamat. t. 26.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. 5.0 5.1 Eesti Jalgpalli Liidu asutamisest möödus 95 aastat
  6. Indrek Schwede 2001. Väike jalgpallipiibel. Lk 97.
  7. "Estonian Football Association fined over actions of Bosnia fans".
Eginyn erthygl sydd uchod am Estonia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.